LIVERPOOL WELSH
               Characters

Home

Societies

Welsh Churches

'Yr Angor'
(Local Paper)

Local Welsh
Characters

Books & Publications

Missionary Witness

Archive
Material

Learn the Language

Cymry Lerpwl

 
Click below for further details

  • PEDROG : Items on Rev John Owen Williams (18531932)
  • To Sir John Barbirolli on his birthday, 2 December 1957
  • Obituaries
  • William Rees (Gwilym Hiraethog 1802-1883)
  • Great Loss to the Liverpool Welsh -Tribute to Mrs Anne Clitherow (1941-2009)
  • Cofiannydd John Gibson - Teyrnged arall i Thomas Matthews
  • Reverend John Gruffydd Moelwyn Hughes
  • Ronw Moelwyn Hughes
  • Reverend Dr Owen Thomas
  •  

    William Rees (Gwilym Hiraethog 1802-1883)

    Ni all hanesydd Cymry Lerpwl nac eisteddfodwr Cymraeg anghofior Parchedig William Rees, Gwilym Hiraethog. Roedd yn ymgorfforiad or gymdeithas Gymraeg ar lannau Merswy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn ddyn prysur, llawn ynni, di-dderbyn wyneb a diofal ohonoi hun. Mae llun ohono ar gael yn weinidog ifanc yn Brownlow Hill, ei wallt yn ddu fel y frn ai wyneb crwn yn mynegir awdurdod oedd yn perthyn iddo. Nid hwn ywr llun cyfarwydd ohono. Yn hwnnw, gwelwn ef wedi collii wallt, ai farf wen laes batriarchaidd yn ein hatgoffa ni or darluniau lliwgar yn rhai o hen argraffiadau Beibl Pitar Williams. Erbyn hynny, roedd wedi magu pau, ac eto, nid oedd ei weithgarwch ronyn llai na phan ddaeth o Ddinbych i Lerpwl ym mis Mai 1843 yn ŵr deugain ac un flwydd oed.
     
    Fel cannoedd oi flaen ac ar ei l, galwad i waith oedd yr alwad i Lerpwl ac yn y ddinas brysur gosmopolitan y cyflawnodd waith mawr ei fywyd fel gweinidog, golygydd, darlithydd, llenor a bardd. Dymar cylch a roddodd fanteision iddo ddatblygui ddoniau niferus, doniau a oedd cyn hynny i raddau mawr yn guddiedig, ond fei meithrinwyd yn y gymdeithas Gymraeg llewyrchus a welwyd ar y Glannau. Rhoddwyd iddo bob cyfle i ddatblygun areithiwr hynod ar lwyfan y Blaid Ryddfrydol. Meddylir amdano ymhlith prif areithwyr ei gyfnod yng Nghymru a Lloegr ond er hyn i gyd nid oedd yn well yn unman nag ymhlith ei gynulleidfaoedd ei hun ar y Glannau. Soniai llawer un am y profiadau a gawsent pan gymerai oedfa noson waith, ran amlaf ar nos Iau, pan fyddain annerch ar destun cyfarwydd or Efengylau neun wir ar un o gymeriadaur Beibl. Pryd hynny, deuain agos iawn at ei bobl gan eu swcro au denu ac weithiaun eu rhybuddio rhag peryglon y ddinas. Fel ei frawd, Henry Rees a weinidogaethai ond tafliad carreg oddi wrtho yn Mulberry Street ac o 1860 i 1869 yn Chatham Street, yr oedd yn ŵr cwbl arbennig wrth Fwrdd yr Arglwydd. Fe ddarluniodd un oi hen aelodau y bardd bregethwr wrth y Bardd yn y brawddegau hyn,

    Yr oedd y tir y sangem arno yn ddaear sanctaidd. Deuai Aberth mawr y groes yn sylwedd byw i ni, a llenwid y lle distawrwydd dwfn, an heneidiau ar fath ddifrifoldeb nes y teimlem ein bod ym mhorth y nefoedd, ac yn cael ein hymgylchynu gan lu y gogoniant.

    Gwir y dywedodd yr aelod dienw hwnnw,

    Ofer ceisio disgrifio'r swperau sanctaidd hynny; nid oes neb ond a fu yn bresennol ar yr adegau hynny a fedrai amgyffred unrhyw ddarlun a ellid tynnu ohonynt.

    Ac eto, dymar bwrid yn yr ysgrif bortread hon ydy tynnu darlun ohono fel y gŵr amryddawn a fun gyfrifol am lawer i agwedd on bywyd fel cenedl y Cymry, ai weld fel artist athrylithgar yn lliwior cyfan yn batrwm ysblennydd. Os llwyddwn, yna, cawn ein hargyhoeddi o arbenigrwydd mawr Gwilym Hiraethog ai ddylanwad ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

    Mae darlun ohonon newyddiadurwr. Ef oedd un or arloeswyr. Am un mlynedd ar bymtheg, bur Amserau, a gyhoeddwyd o 1843 hyd 1859, yn gwbl ddiogel dan ei olygyddiaeth . Deuair Amserau allan bob pythefnos a gweithiodd Gwilym Hiraethog yn egniol, yn wir, fe arbedodd y cylchgrawn rhag mynd ir gwellt. Roedd yr argraffydd John Jones, Castle Street (ffrind mawr iddo) yn colli arian ar y cyhoeddi nes i Gwilym Hiraethog daro ar y syniad gwreiddiol o ysgrifennu Llythyraur Hen Ffarmwr. Llythyron syml oedden nhw, heb eu gwisgo mewn arddull lenyddol yn gymysgedd o iaith lafar bro Hiraethog. Anghymeradwyodd David Rees, Llanelli, y fath arddull ond fe groesawyd y llythyron gan y werin. Roedd y llythyraun agor eu meddyliau au calonnau i sylweddoli eu cyflwr, i wynebur angen o newid, ac i gydymdeimlo r rhai gorthrymedig. Maen ddiddorol darllen y llythyron hyn heddiw. Dyma enghraifft o lythyr a ysgrifennwyd yn 1849 am yr arferiad o osod tyddyn at dyddyn a fferm at fferm.

    Y mae gwahaniaeth mawr iawn yn hun ers pen ydw in cofio - mi wn am lawer, tair, peder, a chwech o ffermydd lle roudd pobl yn gneyd byfoliaeth dwt ystalwm, chwedi i gneyd yn un ffarm fawr rŵan... Dyma bobl ifenc yn priodi... ond tous dim lle iddyn nhw iw gaul - dim posibl bron gaul cornel i odro dwy neu dair o fuchod a chadw deuben o gyffyle y rŵan am fod y ffermydd mawr chwedi lluncud y ffermydd bychin fel gwartheg Pharo, a dim modd gin i bobl ifenc i gymud ffarm fawr tae un iw chael, a tene nhwn chwalud u ceiniog, ag yn munud yn dlodion ar y plwy.

    Byddain trin bob math o bynciau yn yr un arddull, pynciau fel perthynas crefydd r Wladwriaeth; Deddfaur Yd; Pabyddiaeth, Kossuth; Mazzini, Garbaldi; rhyddid caethion yr Unol Daleithiau. Trwy gynnwys yr ysgrifau hyn, symbylodd Gwilym Hiraethog ei ddarllenwyr i bledio am ryddid i werinoedd Hwngari ar Eidal. Galwodd Mazzini iw weld yn ogystal dirprwyaeth oddi wrth Kossuth. Canlyniad naturiol ir llwyddiant oedd y cynnydd yn rhif y darllenwyr fesul degau, bob rhifyn. Ychydig cyn rhyfel y Crimea, cyrhaeddodd cylchrediad yr Amserau wyth mil ond wedi ir papur ochri gyda Rwsia yn y rhyfel waedlyd honno, gostyngodd ei gylchrediad a bun rhaid ir Amserau uno r Faner. Daliai Gwilym Hiraethog i ysgrifennu fel cynt i Faner Thomas Gee yn Ninbych, a maes o law cyhoeddwyd casgliad or llythyron ym 1878 dan y teitl Llythyraur Hen Ffarmwr.

    Prif orchest Gwilym Hiraethog yn yr Amserau oedd cael y cyhoedd Cymraeg i edrych ar gwestiynau gwleidyddol o safbwynt syniadau ac nid o safbwynt personaun unig. Gwnaeth Ymneilltuwyr Cymru yn garfan iw parchu yn y Blaid Ryddfrydol. Mawr oedd y galw arno i annerch ar lwyfannaur Blaid Ryddfrydol yng ngogledd Cymru, a rhan amlaf, ef oedd y prif siaradwr.

    Felly, deuwn at ddarlun arall ohono fel Tad y Ddarlith Gymraeg ac fe ddaeth y ddarlith yn gyfrwng arall iddo drosglwyddoi syniadau. Nid Gwilym Hiraethog gychwynnodd yr arferiad ond ef a fun gyfrwng i dorri tir newydd a gwneud y ddarlith yn atyniad poblogaidd. Yn Lerpwl y traddodwyd y ddarlith gyntaf ar nos Fercher, 25 Tachwedd 1846 yn y Concert Hall, Lord Nelson Street. Dewiswyd David Davies, Paradise Street, gŵr amlwg o blith y Cymry, fel Cadeirydd a gwerthwyd y tocynnau ymlaen llaw gan farsiandwyr yn Stanhope Street, Mill Street, Brownlow Hill a Tithebarn Street. Cyhoeddwyd rhaglen a phosteri i hysbysebur amgylchiad a thyrrodd y Cymry yn eu cannoedd i lenwir neuadd. Am ddwy awr, darlithiodd Gwilym Hiraethog ar y Perganiedydd. Mae hon yn batrwm o ddarlith ac fei chyhoeddwyd ar l ei farw. Mentrodd ar lawer testun a hwyrach ei fenter fwyaf oedd darlithio ar Chwyldroadau 1848. Dyma ddarlith syn gyforiog o wybodaeth, yn gosod y testun ar ei chynfas, ac yn hynod o lawdrwm ar dywysogion a brenhinoedd. Roedd ganddo adnabyddiaeth drylwyr or gwahanol wledydd ac roedd ei ddull ddramatig yn gorfodir gynulleidfa i wrandon astud. Roedd yn feistr ar ei gyfrwng a gwyddair gynulleidfa ei fod mor hyddysg yn hanes Ewrop ag yr oedd yn hanes yr emynydd o Bantycelyn. Gwyddai hanes Martin Luther fel ag y gwyddai hynt a helynt gyfrwng y ddarlith fawr oedd ei wasanaeth ai ddylanwad yn diddori ac yn diwyllior werin bobl.

    Ei gymhelliad mawr oedd gwasanaethui gyd-Gymry a chyflwyno iddynt ddarlun o Gristnogaeth a anghofiwyd ac a ddiystyrwyd mor aml, y Gristnogaeth Galfinaidd ymosodol, gadarn herfeiddiol. Pregethai Gristnogaeth oedd yn ddigon parod i herior byd ai lywiawdwyr. Gwnaeth hynny yn ei ysgrifau, ei ddarlithiau ac i raddau hefyd yn ei farddoniaeth.

    Pan drown at y darlun ohono fel bardd gwelwn ei fod yn perthyn i dyrfa fawr o feirdd oedd yn weinidogion yn enwad yr Annibynwyr, beirdd fel Emrys, Ieuan Gwynedd, Dewi Ogwen, Gwalchmai ac ap Vychan. Ac or rhai erys gwaith Gwilym Hiraethog yn aneirif. Ychydig oi gerddi syn haeddu lle ymysg barddoniaeth oraur genedl ond mae ambell i em yn ei awdl i Heddwch, yn arbennig rhai llinellau or Cywydd ir Gof.

    Chwythui dn dan chwibanu
    Ei fyw dn wna y gof du;
    Un llaw fegina ar llall
    Faluriaur glo fel arall.

    Rhed ei fawd ar hyd ei fin,
    Dewrfodd i brofir durfin
    Ffugiar gŵr yn filwr fod,
    Neu yn hen gadben hynod.

    Fei cura nes yn swch
    Gywrain ei gwasanaethgarwch
    I arur ddaear iraidd,
    A thy o hon wenith a haidd.

    Beth bynnag ddyfarnar beirniaid llenyddol, ir Cymry heddiw, dyn un emyn ydy Gwilym Hiraethog. Ond fe fydd ei enwn byw byth trai chenir

    Dyma gariad fel y moroedd,
    Tosturiaethau fel y lli;
    Twysog Bywyd pur yn marw
    Marw i brynun bywyd ni.
    Pwy all beidio chofio amdano?
    Pwy all beidio thraethui glod?
    Dyma gariad nad n angof
    Tra fo nefoedd wen yn bod.

    Diflannodd llawer o waith creadigol Gwilym Hiraethog i silffoedd siopau ail-law. Yno ambell dro cawn gipolwg ar ei Nodiadau ar yr Epistol at yr Hebreaid, ond go brin fod neb yn darllen ei ddwy gyfrol o bregethau gydar teitl Hebraeg Koheleth. Eto i gyd, maer holl lyfrau oi waith yn llefarun huawdl dros y nerth ar ynni a berthynai i William Rees. Hyd y gwelaf, ar l ei farw ar 8 Tachwedd 1883, y dechreuwyd ei alwn gyson yn l ei enw barddonol.

    Inni syn byw heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach, gallwn wel gwerth hollbwysig y portread hwnnw ohono fel heddychwr. Ni chafodd hin hawdd adeg Rhyfel y Crimea. Daliodd trwyr cyfan i gyd i bledio efengyl tangnefedd. Roedd mwy nag un oi braidd ei hun yn ddig wrtho am ei heddychiaeth. Roedd ei frawd ei hun, Henry Rees, yn gweld bai arno am ei safiad, oherwydd yn ei olwg ef roedd hin rhyfel gyfiawn. Onid William Rees dim ond un safiad oedd yn bosibl. Roedd yn llawn argyhoeddiad a mentrodd draddodi darlith wefreiddiol yn y Concert Hall, Lerpwl ai theitl oedd Y Rhyfel - ar bwy maer bai? Rhoddodd y ddarlith hon hwb mawr i fudiad heddwch a theimlai Henry Richard, Apostol Heddwch, yn reit hapus pan glywodd fod un o brif arweinwyr y Cymry heb ei lyncu gan y propaganda jingoistaidd. Fe olygodd y cwbl ddewrder anghyffredin i William Rees. Ond dyn felly ydoedd, yn ddewr a pharod i gyhoeddii argyhoeddiadau.

    Un agwedd anghyffredin arall i gymeriad amlochrog William Rees oedd ei ddiddordeb mewn seryddiaeth. Lluniodd ysgrifau hynod o afaelgar a difyr ir Traethodydd ar y pwnc hwn. Dywedodd fwy nag unwaith pe bain cael ail-fyw ei fywyd fe fyddain rhoi mwy oi amser i astudio seryddiaeth. Mae hanes amdanon cerdded fwy nag unwaith i gartref Eleazar Roberts er mwyn cael edrych trwyr sbienddrych oedd ganddo yno. Dyna o flaen i oes ydoedd yn hyn o beth fel llawer peth arall.

    Maer hanes yn dadlennu prysurdeb gweithgarwch y dyn cyhoeddus. Yr oedd yr un mor gydwybodol ei gonsarn dros ei deulu. Maer dystiolaeth yn un sicr ei fod yn dad tyner. Pan fu farw David, ei ail fab athrylithgar, yn un ar hugain mlwydd oed, cyfaddefodd Gwilym Hiraethog ei fod yn teimlo fel Job yn ei brofedigaeth. Profodd aml i brofedigaeth. Bu marwolaeth ei gyfaill Joseph Jones, Price Street yn ergyd arall iddo. Gŵr talentog oedd hwnnw ac fe fu farw cyn ei hanner cant oed. Mae hanes am ei weinidog, Gwilym Hiraethog, yn hiraethu ar l ei gyfaill. Oherwydd, roedd ganddo gylch ffyddlon o ffrindiau. Denai Hugh Pugh, gweinidog ym Mostyn, i Lerpwl o leiaf unwaith yr wythnos er mwyn cael treulio peth amser yn ei gwmni. Ffrind arall iddo oedd Thomas Pierce, gweinidog gydar Annibynwyr yn ninas Lerpwl ac fe arferai Gwilym Hiraethog ddweud iddo ddod i Lerpwl er mwyn cael mwy o gwmnii frawd Henry Rees a Thomas Pierce.

    Er ei holl weithgarwch ai feistrolaeth ar gymaint o wahanol feysydd ni chollodd ei symlrwydd calon nai awydd i wasanaethui gyd-Gymry. Llafuriodd heb laesu dwylo. Mae hyn yn rhyfeddol. Roedd yn ŵr o gorffolaeth fawr, ac eto, nid ymddangosai fel pe bain blino o gwbl. Teithiodd ar hyd y blynyddoedd, ac ysgrifennodd yn helaethach na bron neb oi gyfoeswyr. Er iddo ddweud y drefn yn erbyn Toraid Lerpwl, eto cadwodd ei bardd ar hyd y blynyddoedd ymhlith Cymryr ddinas. Fel y cydnebydd Dyfed, yn ei englyn cryno:

    Yn ben ar y llwyfan bu, trylwythog
    Dad darlithwyr Cymru;
    Huawdledd yn cenhedlu
    Bywyd hael i bawb oi du.

    Meinwen Rees  

    Back to contents list           
     


    Great Loss to the Liverpool Welsh

    Tribute to Mrs Anne Clitherow (1941-2009)
    by D Ben Rees

    The Liverpool Welsh were stunned on 14 October when the news of the sudden death of Mrs Anne Clitherow at her home in Kensington circulated throughout the usual network of chapel and societies. She died so sudden on the evening of October 13 at the early age of 68, and left her husband, Joe, two daughters and a son, Jennie, Gaenor and Joseph and their families, two brothers Glyn and Howell, and a sister Margaret and a large number of nephews and nieces and cousins to mourn the tremendous loss.
    Anne Clitherow was a splendid example of a matriarch in our community. She was always proud of stating that she was born in Wales, Caergeiliog in Anglesey, on 31 August 1941. Liverpool had suffered bombing on a huge scale that May and her mother had two reasons to return to her family that August:

    a) the fear of the bombing

    b) that her first born should be born on Welsh soil.

    Her daughter grew up to be proud of her action and would remind us often. Within less than a month she was back in Adelaide Road, where she lived for the rest of her life. 21 years at No 15 and 47 years at No 5 in the heart of the working class township of Kensington.
    Her parents Owen Henry Williams and Jennie Williams were a formative influence on her. Her father worked on the railway and her mother brought up her five children (Anne, Owen, Glyn, Margaret and Howell) in the Welsh way of life.
    Anne attended Rathbone School in Albany Road, then won a scholarship to Ellergreen High School in Norris Green, and from there she entered the Liverpool Fire Service at Hutton Gardens where she met a young fire-fighter Joe Clitherow who became her best friend for nearly 50 years. They were married on St Davids Day in Edge Lane Welsh Presbyterian Chapel in 1962 by the Reverend W D Jones. Soon she became a proud mother herself and later a caring grandmother. She was always at hand for every member of her family, extending warm hospitality, and she would stand on the door till you left the pebbled street. She would phone us and kept in touch. She nursed her grandchildren and loved them, they were all precious in her sight. Later she returned to work, for years supporting her husband in his business activities, and then at St Pauls Eye Hospital, and in the family doctors surgery in Stafford Street later Marybone.
    Her contribution as a Liverpool City Councillor in the late 70s and early 80s will remain as an achievement of significance. Ann Clitherow was elected a Councillor for the Liberal Party in the Smithdown Ward in 1978 and served on the City Council till 1984, at a crucial period in the history of the city when the Militant Tendency were disputing the governance of Liverpool. She stood up for her Christian values of compassion and decency and a year after she was elected her husband Joe joined her as a Councillor for Smithdown Ward. The Liberals had two effective couple as Councillors in that period, John and Pam Bradley and Anne and Joe Clitherow.
    Anne soon became Deputy Chairman of the Education Committee and the present Lord Mayor of Liverpool, Councillor Mike Storey being the Chairman. She made a valuable contribution also on the Appointment Committee. Education and housing were high on her agenda. I remember a well-known headmistress in Liverpool telling me, Your Ann is a miracle worker. We need politicians like her, locally and nationally, in the Assembly as well as in Westminster.
    She involved herself in the Edge Hill Constituency and made the Liberal Party candidate David Alton (today Lord Alton) and visiting Liberals such as Simon Hughes, victor in the Bermondsey by-election of 1983, conscious of the Welsh presence in the city. She brought them to her chapel, Bethel Heathfield Road, Liverpool 15 where she became a member in 1976.
    Her Welshness and her Christian faith went hand in hand. Her uncle, the Reverend D Lloyd Williams of Bangor was a preacher of distinction within the Presbyterian Church of Wales. Anne was always asked to lead us as a church in prayer and praise at the beginning of every year. She did it at the beginning of 2009, and gave out the hymn of T J Pritchard on What awaits in its months; and the answer, Bodlon os caf ymaflyd yn dy law. Her faith was strong, she lived in sympathy and in gentleness, brought comfort to the sorrowing and understanding to the perplexed. She loved her hymns we saw her and her husband on S4C from Llandudno in a Welsh hymn singing festival to remember the genius of Elfed, at the beginning of March 2009. She died as she lived with dignity and was laid to rest before a large gathering at Allerton Cemetery on Thursday, 22 October after a service at her beloved chapel attended by the Lord Mayor of Liverpool and Warren Bradley, leader of the Liverpool City Council, and hundreds of sorrowing family and friends. Her funeral was the largest seen in the Liverpool Welsh community since the funeral of the Welsh language author, Gwilym Meredydd Jones, in 1993.

     

    Back to contents list


    Cofiannydd John Gibson

    Teyrnged arall i Thomas Matthews
    Gan D Ben Rees

    Gwnaeth Dylan Rees gymwynas fawr ni yn ei ymdriniaeth werthfawr ar Thomas Matthews (1874-1916) gan ddangos ei bwysigrwydd fel ysgrifennwr yn y Gymraeg ar Saesneg ar y Celfyddydau Gweledol (Gweler Casglwr Rhif 97 Rhifyn y Gaeaf 2009), t3. Rwyf am ychwanegu l-nodiad gan i Dylan Rees adael allan oi ymdriniaeth gyfrol bwysicaf Thomas Matthews, sef The Biography of John Gibson, RA, Sculptor, Rome, a gyhoeddwyd mewn clawr caled gan y cyhoeddwyr o Lundain, William Heinemann yn 1911. Ni ellir pwrcasu'r gyfrol hon o dan 50 mewn siop ail-law erbyn hyn.

    Pwysigrwydd John Gibson i hanes Cymru

    Yn niwedd mis Medi 2009 cynhaliodd Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi Ŵyl am benwythnos ar John Gibson (1790-1866) y cerflunydd pwysig a gafodd ei eni yng nghyffiniau tref Conwy i rieni a ddeuai yn wreiddiol o Ynys Mn. Gwerth pennaf cyfrol Thomas Matthews yw ei ail atodiad sef tudalennau 240 i 252 lle y dengys fel y bu dau grŵp o bobl yn brwydro dros man ei eni. Dadleuodd Gibson ei hun ai gefnogwyr mai yn y Cyffin ger Conwy y ganwyd ef tra dadleuodd y Bedyddwyr Cymraeg mai yn Nhŷ Capel Fforddlas ger Llansantffraid Glan Conwy (ochr arall i Gonwy) y ganwyd ef. Gosodwyd plac yno ac yn Eglwys y Plwyf Conwy i nodi ei ddyfodiad ir byd!
    Ond i ni fel Cymry Lerpwl y mae gennym afael arno gan iw rieni dderbyn yr awch i hwylio ar draws yr Iwerydd am fyd gwell. Dianc o dlodi bythynnod a chartrefi llwm y Cymry yng ngogledd Cymru. Dyma pam iddo ef ai frawd llai Solomon Gibson, cerflunydd pwysig arall, ddod yn 1799 i Lerpwl i chwilio am long i ymfudo ir Unol Daleithiau. Ond trwy freuddwyd (neu efallai hunllef ywr gair gorau) o fewn, penderfynwyd aros yn Lerpwl. Cafodd freuddwyd erchyll o weld y cwch au cludai ar draws y moroedd yn diflannu i ebargofiant. Nid oedd modd ei berswadio i ystyried y fath siwrnai anghysurus. Wedir cyfan yr oedd hin adnabod un o arweinwyr Cymry Lerpwl y dwthwn hwnnw, sef Daniel Jones, mab yr hanesydd ar Cynghorydd Methodistaidd, Robert Jones, Rhos-lan. Cymerodd ef ddiddordeb ynddynt. Daeth o hyd i dy ar eu cyfer, o fewn milltir i gapel Cymraeg Pall Mall yn Vauxhall.
    Cyflwynwyd y teulu i gymuned Fethodistaidd Galfinaidd oedd yn ennill deiliaid o wythnos i wythnos ac i bobl ddawnus fel Peter Jones, Pedr Fardd oedd yn denu plant ir Ysgol Sul. Dynar Ysgol Sul a fun feithrinfa i dri or artistiaid Cymraeg pwysicaf eu cyfnod, sef Hugh Hughes, John Gibson ai frawd Solomon ac yn ddiweddarach brawd arall o allu arbennig, sef Benjamin Gibson, a anwyd yn Lerpwl yn 1811 ac a fun gymorth amhrisiadwy iw frawd hynaf yn ystod blynyddoedd llewyrchus iawn a gafodd yn Rhufain.
    Y mae llawer or hanes hyn am Gibson yn ail bennod cyfrol Thomas Matthews er nad yw ef yn ymwybodol o gwbl or cefndir Cymraeg y soniais yn yr ysgrif hon. Yn wir y mae ymdriniaeth Thomas Matthews yn dra siomedig er mai ei gofiant ef ywr unig gofiant sydd ar gael iddo or ugeinfed ganrif. Ond yr hyn a wnaeth yn bennaf yw defnyddio hunangofiant a luniodd John Gibson ei hun yn hytrach na dadansoddi cymhellion, uchelgais, gwaith y cerflunydd ar disgyblion niferus a gafodd heb anghofio ei gefnogwyr haelionus a fun pwrcasur cerfluniau. Erbyn heddiw ceir y cerfluniau hyn led led y byd. Y mae ei waith iw ganfod o Awstralia i Rwsia, ac o Califfornia i Lerpwl. Ceir digon oi gerfluniau ar hyd a lled ein gwlad, yng Nghastell Bodelwyddan, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac yn arbennig yn y Walker Art Gallery. Mawr obeithiaf y caf hamdden i gasglu deunydd at ei gilydd erbyn 2012 ar Gibson.
    Credaf fod Peter Lord yn agos iw le yn ei bortread o Gibson. Er ei fod ef yn Gymro Cymraeg ac yn ymhyfrydu yn hynny, eto nid oedd yr ymwybyddiaeth Cymraeg iw ganfod o gwbl yn llythyron niferus Gibson na hefyd yn ei ymweliadau prin Chymru a Lloegr ar l iddo benderfynu mabwysiadu Rhufain fel i gartref.

    Ei uchelgais fel cerflunydd

    Unwaith y cafodd William Roscoe, ffrind a chefnogydd amlwg y Cymry un Lerpwl, adnabod Gibson, fe aeth ati iw gymell i alw arno yn wythnosol yn ei blas yn Springwood. Sylweddolodd John Gibson yno nad oedd pwrpas o gwbl i barhau yn Lerpwl na chwaith yn Llundain. Rhufain oedd y ddinas. Yno y ceid athro'r cerflunwyr. Llwyddodd yn 1918 i adael Llundain (ar l chwe mis yno) am Baris ac yna i Rufain a chael derbyniad tywysogaidd gan y meistr mawr Canova. Rhydd T Matthews bennod ar ei dderbyniad yn Rhufain, sef pennod IV. Disgrifir Canova, ai grefft, Academi Sant Luc a champwaith gyntaf Gibson, sef y Bachgen o Fugail yn Cysgu.
    Rhydd Thomas Matthews ei bennod nesaf, Pennod V, i farwolaeth Canova, ac am y noddwyr fel George Beaumont ac eraill a deithiodd o Loegr i brynu gwaith y Cymro ieuanc. Bun hynod ffodus o gefnogaeth teulu Roscoe, yn arbennig ei wyres Mrs H R Sanbach ai chartref clyd yn Hafod-un-nos ger Llangernyw. Bu Thomas Matthews yn Hafod-un-nos. Gwelodd bapurau Gibson sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a chafodd gyfle arbennig i dynnu lluniau or cerfluniau o waith Gibson a brynwyd gan y Cyrnol S Sanbach ar gyfarwyddid ei briod Sonia Thomas Matthews am athrylith Gibson ac yn arbennig yr anwybyddu mawr fu arno o 1866 i ddyddiau'r cofiant yn 1911. Ychwanega'r gŵr o Landybie: When the genius of John Gibson shall be adequately honoured, a theimlaf er iddo adael ei holl gyfoeth ir Academi Frenhinol, na chafodd ei haeddiant hyd yn hyn. Nid bai Thomas Matthews yw hynny ond i raddau helaeth bai

    i) John Gibson ei hun am iddo anghofio ei wreiddiau gwerinol Cymreig a threulio ei holl ymdrechion gydar snobyddion pwysig ei ddydd. Camgymeriad hawdd ei gyflawni.

    ii) Bun alltud yn Rhufain am 49 mlynedd ac anaml y deuai yn l i Lerpwl a Chonwy, a phrinnach oedd ei gysylltiad gydar Cymry Cymraeg er maen rhaid cofio mair arlunydd o Ferthyr, Penry Williams oedd un oi ffrindiau pennaf.

    iii) Yn Rhufain y gwelir mangre ei hedd, ym mynwent enwog y Protestaniaid. Yn y fynwent honno y mae bedd y beirdd Shelly, Keats (Gibson fun gyfrifol am y maen hwnnw) ac arweinydd y Comiwnyddion, Gramsci, y dysgais gryn dipyn amdano wrth wrando ar ei edmygydd pennaf o blith yr haneswyr, yr Athro Gwyn A Williams.

    Gobeithiaf y gallwn adfer enwogrwydd Gibson i restr eiconau'r Cymry, ac i gyflawnir dasg honno fe erys cyfraniad cyfrol hardd Thomas Matthews a welodd olau dydd pan oedd Prydain yn chwerwi ac yn berwi drosodd mewn streiciau, anghyfiawnder cymdeithas, ar David Lloyd George yn chwifio baner byd gwell - byd lle na fyddai angen poeni or crud ir bedd am yr hanfodion - sef talu am iechyd, addysg, a cheiniog neu ddwy i fwynhau henaint. Etifeddion y byd hwnnw ydan ni.
     

    Back to contents list


     Reverend John Gruffydd Moelwyn Hughes, Birkenhead (1866-1944)

    A native of Tanygrisiau, Blaen Ffestiniog, Moelwyn worked as a youngster in the solicitorsfirm of William and David Lloyd George at Porthmadog.  He received his education in the Colleges of Clynnog, Bangor and Bala and later earned an MA and PhD at the University of Leipzig.  Ordained in 1895 he came to Merseyside from Cardigan in 1917.  He was the minister of the Presbyterian Church of Wales in Parkfield, Birkenhead from 1917 till his retirement in 1936.  His wife Mya hailed from Llangadog and six children were born to them.  Between the father and the children they had five doctorates, three in philosophy, one in science and one in medicine.  The Merseyside Welsh have never head a more talented family than Moelwyn and Mya and the children Ronw, Gwyndaf, Aneurin, Alun, Meurig and Rhiannon.

    Moelwyn was a lyrical poet, hymn writer, philosopher and a notable preacher.  Though he was elected a Moderator of the General Assembly in 1936, there was no one more critical of the Connexion than he was in his day.  He boasted of his allegiance to the Labour party and as a pacifist of conviction.  Dr Moelwyn Hughes died on 26 June 1944 and was buried in his wifes grave at Llangadog, Carmarthenshire.


    Back to contents list


    Ronw Moelwyn Hughes, KC

    The son of Reverend Dr J. G. Moelwyn Hughes and Mya (nee Lewis) and was born in Cardigan during the ministry of his father in that town. He, like all his brothers and sister, was very able and he gained First Class Honours in Law at the University of Cambridge. Politics and the Law came easily to him from his university days. He served as a councillor in Birkenhead as his parents moved there in 1917. Ronw Moelwyn Hughes stood as a Parliamentary candidate for the Liberals in Rhondda West in 1929. That experience converted him to socialism and in 1941 he won Carmarthenshire for the Labour Party before loosing it to Rhys Hopkin Morris in 1945. In 1946 he was asked to conduct the enquiry into the disaster when 33 people were killed at the Bolton Wanderers Ground on March 9 1946. His father thought the world of him and changed his political allegiance as a tribute to him. Ronw Moelwyn Hughes died in 1955. He left Louise Mary, eldest daughter of Baron Fairfield, two sons and a daughter.

    Ronw Moelwyn Hughes, Penbedw


    Mab i'r Parchedig T G Moelwyn Hughes (1866-1944) a Mya (ne Lewis) a fu yn fawr eu dylanwad ymhlith Cymry Penbedw. Ganwyd Ronw yn Aberteifi a chafodd yrfa nodedig fel myfyriwr gan ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yr oedd y gyfraith a gwleidyddiaeth yn nwyd yn ei fywyd o ddyddiau coleg. Bu yn gynghorydd ar Gyngor Tref Penbedw a safodd fel ymgeisydd seneddol dros y Blaid Ryddfrydol yng Ngorllewin y Rhondda yn 1929. Gadawodd y Rhyddfrydwyr am y Blaid Lafur ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur Sir Gaerfyrddin yn 1941 cyn colli'r sedd i Rhys Hopkin-Morris. Meddylid y byd ohono ym Mhenbedw fel ag yng ngorllewin Cymru, gan ei fod yn apelio'n fawr at y werin bobl. Yr oedd ei dad Moelwyn yn meddwl y byd ohono a newidiodd yntau ei liw gwleidyddol fel gweithred o barch i'w fab athrylithgar. Bu farw Ronw Moelwyn Hughes yn y flwyddyn 1955. Gadawodd wraig Louise Mary (merch hynaf Baron Fairfield) a dau fab a merch.

    Back to contents list


    Reverend Dr Owen Thomas, Liverpool.

    One of the most outstanding preachers in Liverpool in the Victorian era. Born in Holyhead in 1812, he moved to Liverpool in 1865 from London. Dr Thomas  was the minister of Netherfield Road Welsh Presbyterian Chapel in Netherfield Road, Liverpool before he moved across the city to live in 46 Catherine Street as Minister Princes Road Presbyterian Church of Wales,  which in 2006 is having a new roof. This was in 1871 and he ministered till his death in 1891. Dr Owen Thomas was a preacher of great distinction and also an authority on the history of welsh preaching. While at Liverpool he wrote two important biographies, the first to John Jones, Talysarn whose daughter Mrs Gwen Davies, Devonshire Road was a member of his congregation and the second to Henry Rees who laboured in Liverpool for 30 years. D. Ben Rees  of Liverpool is the foremost authority on him as he wrote a biography of him in Welsh in 1979 and an English version, The Life and work of Owen Thomas 1812-1891: A Welsh Preacher in Liverpool (Lewiston,1991). His grandson J. Saunders Lewis  praised highly the Welsh version as did Professor Leuan Gwynedd Jones the English volume.

    Back to contents list