LIVERPOOL WELSH
                    Books

Home

Societies

Welsh Churches

'Yr Angor'
(Local Paper)

Local Welsh
Characters

Books & Publications

Missionary Witness

Archive
Material

Learn the Language

Cymry Lerpwl

D. Ben Rees (gol.), Meistri'r Awen (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2022). 226 tt. 15.

Wele gyfrol arall hynod hardd a phwysig a gyhoeddwyd gan gwmni blaengar Cyhoeddiadau Modern Cymreig, Lerpwl. A'r rheswm pennaf dros baratoi'r astudiaeth hon oedd ceisio clodfori cyfraniad nifer o lenorion pwysig yn ein hanes oedd yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes, ac felly mewn perygl o fynd braidd yn angof erbyn hyn. Ar un olwg mae'n dilyn patrwm y gyfrol Dyrnaid o Awduron Cyfoes, astudiaeth a olygwyd eto gan y Dr D. Ben Rees bron i hanner canrif yn l ym 1974. Rhoddwyd croeso brwdfrydig iddi ar y pryd, mae'n dal yn ddefnyddiol i efrydwyr ein lln hyd at heddiw, ac yn sicr ddigon rhoddir yr un croeso cynnes i'r gyfrol fach hylaw hon.

Llwyddodd y golygydd egnol, yn l ei arfer, i ddenu cyfraniadau gwerthfawr, o safon uchel gan chwech o ysgolheigion sydd wedi trwytho eu hunain yng ngwaith y llenorion y disgrifir eu gwaith yma. Ac mae pob un o'r llenorion yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes. Mae'r to hŷn yn dal yn ymwybodol o'u cyfraniad, ond nid felly y to iau ar wahn efallai i gyhoeddiadau Caradog Pritchard a'i nofel enwog Un Nos Ola Leuad.

I gychwyn, cawn ddarllen ysgrif feistrolgar gan Dr R. Alun Evans ar weithiau'r 'cawr' Dr Iorwerth C. Peate (1901-82), ' y dyn digymrodedd, anoddefgar oedd hefyd yn llawn tynerwch a hynawsedd', chwedl yntau. Yn hollol ar wahn i'w gyfraniad aruthrol fel curadur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan nid nepell o Gaerdydd, rhwng ei sefydlu ym 1948 hyd at ei ymddeoliad oddi yno yn llawn anrhydeddau a pharch y genedl, fe brofodd y Dr Peate ei hun yn ysgolhaig cadarn a chynhyrchiol mewn nifer o feysydd gwahanol, yn llenor a gyhoeddodd yn bur gyson ac yn fardd medrus a chrefftus. 

Yna mae'r Dr Eirian Jones yn rhoi ei sylw i waith B. T. Hopkins, Blaenpennal, y bardd cefn gwlad nodedig a hanai o gefn gwlad sir Aberteifi a ddaeth yn feistr digymar efallai ar ffurf y delyneg. Ceir cyfle gwych yma i werthfawrogi nifer fawr o'i gyfraniadau, ac yn eu plith ei gywydd enwocaf oll sef 'Rhos Helyg', a darllen am eu cefndir, ynghyd hanes personol y bardd a'r dylanwadau a fu arno. Gŵr ei filltir sgwr ydoedd yn ddios, ffermwr cefn gwlad a phregethwr lleyg tra phoblogaidd.

Bardd arall o bwys oedd John Evans (sef Sin Ifan), brodor o Ddyffryn Ardudwy, ac ef sydd yn derbyn sylw ei ŵyr yma, sef Aled Lewis Evans.  Daw llawer iawn o wybodaeth newydd am y cawr o fardd hwn i'r golwg o fewn yr ysgrif hon, a chroniclir ei fywyd yn bur fanwl. Sonnir am ei gampau cyson mewn eisteddfodau lleol a arweiniodd at gael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Cynan ym Mhrifwyl Aberystwyth, Awst 1952. O fewn dwy flynedd gwta fe'i cadeiriwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954. Ar l hynny, canolbwyntiodd ar lunio toreth o benillion ysgafn a chymdeithasol a nifer o englynion coffa fel arfer i bobl Ardudwy. A da dros ben yw cael ein hatgoffa yma am ei gyfraniadau pwysig dros nifer fawr o flynyddoedd.

Y golygydd y Dr D. Ben Rees sydd wedi dewis y nofelydd a'r bardd Caradog Prichard (1904-80), 'y llenor pennaf o blith yr alltudion Cymraeg', fel testun ei ymchwiliadau manwl, yn aml yn seiliedig ar yr archif helaeth o'i bapurau sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys llawer o ohebiaeth deuluol. Hynod ddifyr yw'r manylion am ei yrfa fel newyddiadurwr a'i gyfeillgarwch gyda nifer o gewri eraill fel Cynan, Prosser Rhys a John Eilian.

Yna mae Norman Clos Parry yn trafod bywyd a gwaith bardd arall o bwys sef Einion Evans (1926-2009), yr unig brifardd mewn gwirionedd a hanai o sir y Fflint ac awdur yr hunangofiant o bwys sef Tri Chwarter Coliar (1991). A dadansoddir ei gerddi a'i gyhoeddiadau yn bur ofalus yma.

Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw thema'r cyfraniad olaf at y casgliad gan y Dr Pat Williams, Lerpwl. A rhoddir sylw yma i'w gyhoeddiadau niferus dros 430 ohonynt, yn cynnwys erthyglau amrywiol eu naws, yn feirniadaethau, yn adolygiadau craff ac yn deyrngedau trwyadl. A chyfeirir at Bedwyr yma fel 'ditectif geiriau' oedd yn fythol barod i deithio ledled Cymru fach i ddarlithio ac annerch cynulleidfaoedd amrywiol. Ei fethiant i ddweud 'Na' a gyfrannodd yn drist iawn at ei farwolaeth gynamserol yn 58 mlwydd oed.

Nid y lleiaf o gryfderau'r gyfrol hon yw'r bywgraffiadau cryno a geir yma o'r cyfranwyr dysgedig oll, a'r llyfryddiaeth o gyhoeddiadau pwysicaf y chwe awdur sydd yn cael eu trafod yma. A brithir y llyfr drwyddi draw gyda nifer fawr iawn o ffotograffau hardd a phwysig.

J. Graham Jones

Cofiant arloesol a theilwng i un o gewri gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru

Adolygiad Dr J. Graham Jones o D. Ben Rees, Cymro i'r Carn: Cofiant Gwilym Prys-Davies. Gwasg y Bwthyn. 12.95 (clawr meddal).

Pleser o'r mwyaf yw cael croesawu o'r diwedd cofiant sylweddol a chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'n astudiaeth hollbwysig. Roedd yr awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda am nifer fawr o flynyddoedd ac yn gyfaill mynwesol iddo am ddegawdau ar eu hyd, dros hanner canrif yn wir. Y mae'n gwerthfawrogi ei rinweddau, ei gryfderau a'i gyfraniadau mewn sawl cyfeiriad gwahanol.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn y flwyddyn 2017, daeth archif bwysig o'i bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, a Ben Rees oedd un o'r ymchwilwyr cyntaf i wneud defnydd helaeth ohonynt ar gyfer y llyfr hwn. Mae'r archif yn cynnwys yn arbennig gohebiaeth anghyffredin o ddadlennol a diddorol. Mae'r cofiant hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil manwl mewn nifer fawr o archifau pwysig eraill sydd yn berthnasol. (Gweler y rhestr helaeth ohonynt ar dud. 313 yn y gyfrol.)

Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a Cledwyn Hughes, sef y gwleidyddion y mae'r Dr D. Ben Rees wedi llunio cofiannau sylweddol, uchel eu parch iddynt yn barod (gan gynnwys cofiant i Griffiths yn y Saesneg yn ogystal), nid gwleidydd proffesiynol, cyhoeddus yn yr un modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies, ond un a lafuriai yn aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar eraill a chyflawni gwyrthiau yn dawel bach dros y genedl a garai a thros yr iaith Gymraeg. Gan ei fod yn ŵr rhyfeddol o swil a diymhongar wrth natur, ac yn hoffi byw ei fywyd yn yr encilion, nid pawb a werthfawrogai ei gyfraniad dros y blynyddoedd.

Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn bennaf fel yr ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn isetholiad nodedig sir Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966 pan gipiwyd y sedd ymylol honno gan neb llai na'r Dr Gwynfor Evans, llywydd Plaid Genedlaethol Cymru ers 1945. Disgrifir yr ornest arbennig honno o fewn pennod 7 yn y cofiant (tt. 108-25)   sef 'isetholiad pwysicaf yr ugeinfed ganrif' ym marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym Prys-Davies siom aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth sir Feirionydd. (Gweler pennod 6 yma.)

Ond mae llawer iawn mwy i drafod wrth gwrs. Fel y gwelwn wrth ddarllen y llyfr, gwnaeth Gwilym waith arloesol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y llysoedd yn ystod y 1960au. Roedd hefyd yn un o'r selogion a frwydrodd yn amyneddgar i sefydlu S4C fel sianel ar gyfer darlledu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ym 1982. Ac roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio Deddfau'r Iaith Gymraeg 1967 ac eto 1993.

Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei gefnogaeth i hybu datganoli yng Nghymru o'r 1960au ymlaen, gweithredodd fel 'cynghorydd arbennig' i John Morris AS pan roedd yntau yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn y 1970au, roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol o Fwrdd Ysbytai Cymru am flynyddoedd ar eu hyd, a thaflodd ei hun i mewn i fywyd Tŷ'r Arglwyddi gydag ymroddiad bywiog a brwdfrydedd anghyffredin. Enillodd barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn. A phriodol iawn yw'r ffaith i Ben Rees gyflawni'r astudiaeth hon i'r Arglwydd John Morris.

Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli'n llwyr yr elfennau hynny a ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a chymeriad ei wrthrych. Yn eu plith mae ei gefndir teuluol yn Llanegryn, sir Feirionydd, ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth, ei waith o fewn Mudiad Gweriniaethol Cymru, a'i berthynas agos a phwysig gyda Goronwy O. Roberts AS a Huw T. Edwards. Ac mae nifer fawr o wleidyddion Llafur eraill yr ugeinfed ganrif yng Nghymru hefyd yn cael eu lle o fewn y stori ryfeddol hon.

Llunnir y cyfan o'r testun o glawr i glawr mewn Cymraeg graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur yn wresog ar gyhoeddi campwaith pwysig arall eto a fydd yn sicr yn derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o ddarllenwyr gwerthfawrogol ein cenedl.

lunnir y cyfan o'r testun o glawr i glawr mewn Cymraeg graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur yn wresog ar gyhoeddi campwaith pwysig arall eto a fydd yn sicr yn derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o ddarllenwyr gwerthfawrogol ein cenedl.

D. Ben Rees (gol.), Meistri'r Awen (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2022). 226 tt. 15.

Wele gyfrol arall hynod hardd a phwysig a gyhoeddwyd gan gwmni blaengar Cyhoeddiadau Modern Cymreig, Lerpwl. A'r rheswm pennaf dros baratoi'r astudiaeth hon oedd ceisio clodfori cyfraniad nifer o lenorion pwysig yn ein hanes oedd yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes, ac felly mewn perygl o fynd braidd yn angof erbyn hyn. Ar un olwg mae'n dilyn patrwm y gyfrol Dyrnaid o Awduron Cyfoes, astudiaeth a olygwyd eto gan y Dr D. Ben Rees bron i hanner canrif yn l ym 1974. Rhoddwyd croeso brwdfrydig iddi ar y pryd, mae'n dal yn ddefnyddiol i efrydwyr ein lln hyd at heddiw, ac yn sicr ddigon rhoddir yr un croeso cynnes i'r gyfrol fach hylaw hon.

 Llwyddodd y golygydd egnol, yn l ei arfer, i ddenu cyfraniadau gwerthfawr, o safon uchel gan chwech o ysgolheigion sydd wedi trwytho eu hunain yng ngwaith y llenorion y disgrifir eu gwaith yma. Ac mae pob un o'r llenorion yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes. Mae'r to hŷn yn dal yn ymwybodol o'u cyfraniad, ond nid felly y to iau ar wahn efallai i gyhoeddiadau Caradog Pritchard a'i nofel enwog Un Nos Ola Leuad.

 I gychwyn, cawn ddarllen ysgrif feistrolgar gan Dr R. Alun Evans ar weithiau'r 'cawr' Dr Iorwerth C. Peate (1901-82), ' y dyn digymrodedd, anoddefgar oedd hefyd yn llawn tynerwch a hynawsedd', chwedl yntau. Yn hollol ar wahn i'w gyfraniad aruthrol fel curadur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan nid nepell o Gaerdydd, rhwng ei sefydlu ym 1948 hyd at ei ymddeoliad oddi yno yn llawn anrhydeddau a pharch y genedl, fe brofodd y Dr Peate ei hun yn ysgolhaig cadarn a chynhyrchiol mewn nifer o feysydd gwahanol, yn llenor a gyhoeddodd yn bur gyson ac yn fardd medrus a chrefftus. 

 Yna mae'r Dr Eirian Jones yn rhoi ei sylw i waith B. T. Hopkins, Blaenpennal, y bardd cefn gwlad nodedig a hanai o gefn gwlad sir Aberteifi a ddaeth yn feistr digymar efallai ar ffurf y delyneg. Ceir cyfle gwych yma i werthfawrogi nifer fawr o'i gyfraniadau, ac yn eu plith ei gywydd enwocaf oll sef 'Rhos Helyg', a darllen am eu cefndir, ynghyd hanes personol y bardd a'r dylanwadau a fu arno. Gŵr ei filltir sgwr ydoedd yn ddios, ffermwr cefn gwlad a phregethwr lleyg tra phoblogaidd.

 Bardd arall o bwys oedd John Evans (sef Sin Ifan), brodor o Ddyffryn Ardudwy, ac ef sydd yn derbyn sylw ei ŵyr yma, sef Aled Lewis Evans.  Daw llawer iawn o wybodaeth newydd am y cawr o fardd hwn i'r golwg o fewn yr ysgrif hon, a chroniclir ei fywyd yn bur fanwl. Sonnir am ei gampau cyson mewn eisteddfodau lleol a arweiniodd at gael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Cynan ym Mhrifwyl Aberystwyth, Awst 1952. O fewn dwy flynedd gwta fe'i cadeiriwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954. Ar l hynny, canolbwyntiodd ar lunio toreth o benillion ysgafn a chymdeithasol a nifer o englynion coffa fel arfer i bobl Ardudwy. A da dros ben yw cael ein hatgoffa yma am ei gyfraniadau pwysig dros nifer fawr o flynyddoedd.

 Y golygydd y Dr D. Ben Rees sydd wedi dewis y nofelydd a'r bardd Caradog Prichard (1904-80), 'y llenor pennaf o blith yr alltudion Cymraeg', fel testun ei ymchwiliadau manwl, yn aml yn seiliedig ar yr archif helaeth o'i bapurau sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys llawer o ohebiaeth deuluol. Hynod ddifyr yw'r manylion am ei yrfa fel newyddiadurwr a'i gyfeillgarwch gyda nifer o gewri eraill fel Cynan, Prosser Rhys a John Eilian.

 Yna mae Norman Clos Parry yn trafod bywyd a gwaith bardd arall o bwys sef Einion Evans (1926-2009), yr unig brifardd mewn gwirionedd a hanai o sir y Fflint ac awdur yr hunangofiant o bwys sef Tri Chwarter Coliar (1991). A dadansoddir ei gerddi a'i gyhoeddiadau yn bur ofalus yma.

 Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw thema'r cyfraniad olaf at y casgliad gan y Dr Pat Williams, Lerpwl. A rhoddir sylw yma i'w gyhoeddiadau niferus dros 430 ohonynt, yn cynnwys erthyglau amrywiol eu naws, yn feirniadaethau, yn adolygiadau craff ac yn deyrngedau trwyadl. A chyfeirir at Bedwyr yma fel 'ditectif geiriau' oedd yn fythol barod i deithio ledled Cymru fach i ddarlithio ac annerch cynulleidfaoedd amrywiol. Ei fethiant i ddweud 'Na' a gyfrannodd yn drist iawn at ei farwolaeth gynamserol yn 58 mlwydd oed.

 Nid y lleiaf o gryfderau'r gyfrol hon yw'r bywgraffiadau cryno a geir yma o'r cyfranwyr dysgedig oll, a'r llyfryddiaeth o gyhoeddiadau pwysicaf y chwe awdur sydd yn cael eu trafod yma. A brithir y llyfr drwyddi draw gyda nifer fawr iawn o ffotograffau hardd a phwysig.

J. Graham Jones

His ode, "Yr Arwr" with English translation click here

D. Ben Rees (ed.), Hedd Wyn and the Black Chair Festival:
Poet-Shepherd of the First World War
. Gwasg y Lolfa. 2018.
95 pp. 6.99.

This slim volume abounds with exceptionally interesting and historically significant material published following the convention of the Black Chair festival at Birkenhead Park during September 2017 an ambitious, successful undertaking which reflects great credit on its organizers who laboured hard for several months, displaying much dedication and patience. Our sincere thanks to them all. 

This is a volume to celebrate the life of the one and only Hedd Wynn, namely Ellis Humphrey Evans, a native of the Trawsfynydd area, a well-known local shepherd and the poet who won the chair at the Birkenhead National Eisteddfod, September 1917, but by the day on which the chairing ceremony was held he had been killed during the course of the famous Battle of Pilkem Ridge in the First World War, on the last day of July an exceptionally painful event in our history and historiography as a nation and one which is certainly worth commemorating in our day and age. As part of this ambitious, pioneering festival, arrangements were made for a number of public lectures, several concerts and a singing festival which proved to be sensational and impactful. In addition many young poets were given the opportunity to submit their works for the festival's chair and crown in both Welsh and English. 

And the main organizer of this event was the Rev Dr Professor D. Ben Rees, an outstandingly dedicated and hard working individual, ever dynamic in his approach, and an academic historian with a huge personal presence and a prodigious scholarly output. And Dr Rees was one of the most enthusiastic founders of the Merseyside Welsh Heritage Society, a body which he has supported with exemplary dedication over many years. The volume includes a number of contributions in both Welsh and English. 

And one of the most important contributions to this volume is a concise essay by Dr Rees on the historical context of the Black Chair Eisteddfod of 1917. And the main theme of this piece is the part played by the Welsh in the history of the Birkenhead area, and due mention is made of some of the Welsh who migrated to this particular area, thence contributing substantially to the development of the Welsh chapels within Birkenhead and helping to host the 1917 National Eisteddfod there, a major challenge given the problems posed by the war at that time. 

One of the most attractive events of the festival in 2017 was an exceptionally accomplished lecture by Professor Peredur Lynch of Bangor on the theme 'Hedd Wyn and the Public Memory'. And the Honourable Society of Cymmrodorion was responsible for hosting this lecture. Then we have an opportunity to read a further lecture, now in English, by Huw Edwards, a familiar face on the television screen in our living rooms for many years. Huw presents us with a masterly dissection of the role played by David Lloyd George and other Liberal politicians in introducing military conscription at the height of the Great War in 1916 and 1917. 

Most of the rest of the volume comprises the texts of the adjudications for the Chair and the Crown during the 2017 festival and the poems which were successful, each the work of young, promising poets and writers, in both Welsh and English. The chair was awarded for a poem or series of poems on the subject of Hedd Wyn. The two adjudicators were Dr Robin Gwyndaf and Dr Sin Aled Owen, and Martin Huws won the prize in an uncommonly strong field of competitors. 

Most interesting is the opportunity to read some of the sincere appreciative letters which came to hand to thank the organisers on their success in arranging such a appealing event, together with a note of warm thanks from Dr D. Ben Rees. And to crown the publication is an array of splendid colour photographs taken during the celebrations at Birkenhead in September 2017. One must also congratulate Y Lolfa on publishing a most attractive and appealing little volume which captivates both the eye and the mind. Well done, everybody. 

J. Graham Jones  

For a wide range of Welsh publications, visit
the
Modern Welsh Publication's website
 
Title

Author

Published by

Price

Hunangofiant - D Ben Rees

Dr D Ben Reesy

Lolfa

12.99

Review at Modern Welsh Publications

Title

Author

Published by

Price

Defosiwn Gŵyl y Pasg

D.Ben Rees
 
Cyhoeddiadau'r Gair
 
8.99

Title

Author

Published by

Price

The Welsh Missionary Witness in Ellesmere Port (1907-2007)

D.Ben Rees

Modern Welsh Publications

15.00 (Two books in one, see below)

Title

Author

Published by

Price

Cysegr Sancteiddiolaf Capel Westminster Road Ellesmere Port (1907-2007)

D.Ben Rees

Modern Welsh Publications

15.00 (Two books in one, see above)

Title

Author

Published by

Price

A Portrait of Battling Bessie - Life and Work of Bessie Braddock, a Liverpool MP

D Ben Rees

Leen Editions

5.99

Can be purchased from Leen Editions
or from D Ben Rees

Title

Author

Published by

Price

Caerwyn

Maredudd ap Rheinallt ac Qwena D.Thomas

Modern Welsh Publications

To be advised

Title

Author

Published by

Price

The Welsh of Merseyside - volume 1

Rev. D. Ben Rees

Modern Welsh Publications Ltd

8.00 [paperback]

Title

Author

Published by

Price

Cymry Lerpwl a'r CCyffiniau - cyfrol 1

Rev. D. Ben Rees

Modern Welsh Publications Ltd

12.00 [hardback]

Title

Author

Published by

Price

The Welsh of Merseyside in the Twentieth Century- volume 2
Rev. D. Ben Rees

Modern Welsh Publications Ltd

20.00 [hardback]
12.50 [paperback]

Title

Author

Published by

Price

Cymry Lerpwl a'r Cyffiniau yn yr Ugeinfed Ganrif - cyfrol 2
Rev. D. Ben Rees

Modern Welsh Publications Ltd

20.00 [hardback]
15.00 [paperback]