Cymry Lerpwl
Cymdeithas Cymry Lerpwl

Hafan

Cymdeithasau

Eglwysi Cymraeg

Yr Angor

Cymeriadau lleol

Llyfrau

Y
Genhadaeth

Archifau

Dysgu yr Iaith

Liverpool Welsh
 

To view the Rhaglen yr Ŵyl/Festival Timetable  -  click here
 

 
Braslun o hanes Cymry Lerpwl

Pwy ydyn nhw? Beth maen nhw wedi ei wneud?

Mae Cymry Lerpwl wedi bod yn rhan annatod o fywyd Lerpwl ers cyfnod y fasnach caethweision ac adeiladu'r dociau yn negawd olaf y ddeunawfed ganrif. Roedd gyrfa ar y mr yn atyniadol iawn i ddynion ifainc o Sir Fn a Sir Gaernarfon, a phan sefydlwyd y bardd athrylithgar Goronwy Owen yn offeiriad yn Eglwys Anglicanaidd y Santes Fair Walton yn 1755, roedd wrth ei fodd yn mynd i lawr i'r dociau y gael sgwrsio yn Gymraeg morwyr o'i gynefin yn Ynys Mn. Daeth y dynion a merched o Gymru yn lluoedd i Lerpwl rhwng 1760 a 1850, ac yn y cyfnod hwnnw adeiladwyd o leiaf 16 o gapeli ac eglwysi. Erbyn 1900 roedd yn y ddinas tua 90 o gapeli, eglwysi a neuaddau cenhadol Cymraeg eu hiaith i gyflenwi anghenion ysbrydol a diwylliannol y bobl hyn. Erbyn 1815 roedd yna dref Gymreig o fewn cyffiniau Lerpwl. Mae plac Cymru Fach i goffu eu dyfodiad ar y dde o Pall Mall i'r gogledd o gyffordd Leeds Street a byddaf yn mynd ag ymwelwyr i'w weld ers iddo gael ei osod yn haf 2007.

Er eu bod yn ifanc a chan amlaf yn dlawd roedd yr ymfudwyr hyn yn ddynion a merched a oedd yn benderfynol o wneud bywyd gwell iddynt eu hunain, er bod y press gangs yn y dref yn rhwystr iddynt, a dweud y lleiaf. Methodistiaid Calfinaidd ifainc oedd y rhan fwyaf ohonynt yn ffoi rhag erlidiaeth y sefydliad Anglicanaidd, y ficer lleol a'r sgweiar yn arbennig. Cawsant gysur fel alltudion mewn gwlad ddieithr.

Roedd y rhan fwyaf o'r alltudion hyn yn ymwneud diwydiant adeiladu llongau a thai.  Daeth rhai ohonynt yn benseiri a sefydlodd cannoedd ohonynt gwmnau adeiladu. Roeddent yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad Lerpwl o fod yn bentref pysgota bychan i borthladd anferth a dinas gosmpolitaidd erbyn 1900. Trwy adeiladwyr fel Owen Elias a David Hughes gwnaethant helpu i estyn y ddinas i Kirkdale, Anfield, Walton, Everton, St Domingo, Islington a Kensington. Daeth treflannau megis Everton ac Anfield yn Gymraeg eu hiaith a'u diwylliant  ac yn amlwg ym myd busnes, fel y'i cofnodwyd gan Syr James Picton. Yn aml rhoddwyd enwau Cymraeg ar y strydoedd, nid yn Toxteth yn unig ond dros y ddinas i gyd. Derbyniodd dynion ifainc a ddaeth o Gymru gefnogaeth gan flaenoriaid y capeli Cymraeg, rhai ohonynt yn adeiladwyr cyfoethog eu hunain. Mewn dau ddegawd roedd llawer o'r alltudion hyn wedi llwyddo y tu hwn i ddirnadaeth.  Mae eu hetifeddiaeth yma o hyd ac mae angen am Lwybr Cymreig i ddangos lleoliad y siopau a'r cwmnau hyn.

Daeth nifer o ddynion ifainc i gael eu hyfforddi fel meddygon a merched ifainc i fod yn weinyddesau yn ysbytai Lerpwl. Roedd y meddygon esgyrn o Ynys Mn, Evan Thomas a'i fab hynaf Hugh Owen Thomas ynghyd nai ei wraig Syr Robert Jones, yn gyfrifol am ddatblygiad Lerpwl fel canolfan ar gyfer meddygaeth orthopaedig. Cewri y meddygon Cymraeg yw Dr Robert Gee, Dr Thelwall Thomas, Professor Owen H.Williams,  Dr Goronwy Thomas, Dr Howell  Hughes a Mr Will Lloyd-Jones. Gwasanaethwyd Cenhadaeth Dramor Eglwys Bresbyteriadd Cymru yng Ngogledd-Ddwyrain India gan nifer o feddygon arbennig o Lerpwl yn enwedig Dr Gordon Roberts a Dr R. Arthur Hughes. Cymry Lerpwl a gychwynnodd y dystiolaeth arbennig hon o 1840 tan 1970. Daeth Prifysgol Lerpwl, lle y derbyniodd y meddygon hyn eu hyfforddiant, yn atynfa i fyfyrwyr eraill i astudio'r Celfyddydau, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bu nifer o wŷr lln nodedig mewn Hanes Cymru yn darlithio mewn adrannau gwahanol o'r Brifysgol. Gwasanaethwyd yr Adran Geltaidd yn dda gan y bardd J.Glyn Davies, brodor o Toxteth, Idris Foster a benodwyd yn ddiweddarach i Goleg Iesu, Rhydychen, Melville Richards, D Simon Evans a Dr Nicholas Williams. Yn yr adran Hanes cafodd Yr Athro W. Garmon Jones lawer o ddylanwad ac yn Adran y Gyfraith roedd gan Yr Athro D Seaborne Davies ddawn arbennig fel areithiwr. Gwasanaethwyd  Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol John Moores yn ogystal ag ysgolion y ddinas yn dda gan athrawon o Gymru.

Maes arall lle y bu'r Cymry yn ddylanwadol yw cerddoriaeth. Anrhydeddwyd Undeb Corawl Cymry Lerpwl am ei gyfraniad hir a nodedig drwy gyflwyno iddo Ryddid y Ddinas yn 2013. Mae llawer wedi ei gofnodi am gyhoeddi Cymraeg ac mae Cyhoeddiadau Cymraeg Modern yn dal i ffynnu gyda'i wefan ei hunan. Mae gan y traddodiad eisteddfodol hanes hir ac arbennig o 1840 tan 1990 ac y mae beirdd o fri wedi llafurio yn Lerpwl. Mae emynau Cymraeg a'u tonau wedi eu cyfansoddi yn y ddinas ac fe'u cenir yn gyson o Sul i Sul.

Mae llawer wedi ei ysgrifennu ar Gymry Lerpwl yn ystod y 30 mlynedd ac y mae Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi yn gyswllt pwysig i gadw i'r oesoedd a ddel y diwylliant cyfoethog unigryw a fu. Mae'n werth archebu'r misolyn, Yr Angor, am 10-50 y flwyddyn, gan ei fod yn cynnwys y gweithgareddau a fu ac a fydd yn y cymunedau Cymraeg.

Paratowyd ar gyfer Gwefan Cymry Lerpwl gan yr Athro Dr D.Ben Rees.