Sefydlwyd y Gymdeithas yn
2000 gyda'r bwriad o hyrwyddo gybodaeth leol a thu hwnt am
ddiwylliant, iaith ac etifeddiaeth Cymry Lerpwl. I'r perwyl
hwn gosodwyd placiau i nodi cyfraniad nifer o Gymry i fywyd
Cymreig Glannau Mersi a thu hwnt. Hefyd cynhelir gŵyliau
blynyddol i ddathlu cyfraniad Cymru nodedig neu
weithgareddau Cymraeg arbennig.
Yn dechrau ym mis Hydref 2022 bydd y Gymdeithas hefyd yn
cynnig rhaglen fisol o ddigwyddiadau yn Saesneg yng
Nghanolfan Cymry Lerpwl ochr yn ochr â'r digwyddiadau
diwylliannol Cymraeg sy'n cael eu cynnal yno trwy'r flwyddyn

Rhaglen
digwyddiadau Hydref 2022
Nos Wener, 14eg Hydref
2022, am 7:30 yng Nghanolfan Cymry Lerwpl, Auckland Road,
L18 0HX
The Story of the
Liverpool Welsh
Sgwrs gyda darluniau yn Saesneg gan Dr D
Ben Rees - mynediad am ddim
Bydd y sgwrs hon yn
disgrifio cyfraniad y Cymry a'u diwylliant wedi gwneud i
Lerpwl ers iddyn nhw ddechrau heidio i'r dref o ddiwedd y
Ddeunawfed Ganrif ymlaen. Yn ogystal â'r gymuned Gwyddeleg
mae'r Cymry wedi troi Lerpwl i'r ddinas fwyaf Celtaidd yn
Lloegr. Mae nifer o'r Cymry yn dal i ystyried Lerpwl fel
prifddinas answyddogol gogledd Cymru.
Ganed Dr D Ben Rees yn Llanddewi Brefi, Ceredigion. Mae fe
wedi bod arweinydd y Cymry Lerpwl ers 1968. Mae'n enwog fel
hanesydd lleol, gweinidog Presbyteraidd, ac awdur tua chant
o lyfrau.
Sadwrn, 5ed o Dachwedd 2022 - ticedi
pymtheg punt
Gŵyl i Gofio
Cyfraniad Mrs Enid Wyn Jones & Dr Emyr Wyn Jones
Sesiwn y Bore, yng Nghanolfan Cymry Lerpwl, Capel Bethel,
Auckland Road, Lerpwl, L18 0HX
10:15 - 11:15 |
Darlith gan Dr. Gareth Wyn Jones, yn Gymraeg gyda
chyfieithiad opsiynol i'r Saesneg |
|
Cysylltiadau Teuluol gyda Lerpwl |
11:15 - 11:45 |
Egwyl am Baned (cynnwys ym mhris ticedi) |
11:45 - 12:45 |
Darlith gan Yr Athro Richard Wyn Jones, yn Gymraeg
gyda chyfieithiad opsiynol |
|
Gwleidyddiaeth Cymru: Pam for Llafur yn enill tro
ar ôl tro? |
Sesiwn yr hwyr yn Elm Hall Drive Methodist Church, Elm
Hall Drive, Lerpwl, L18 1LF
19:30 - 21:00 |
Cyngerdd gan gantorion o Gôr Cymnru Lerpwl a
chyfeillion gyda Stephen Hargreaves |
|
a Keith Orrell |
Nos Wener, 2il Rhagfyr
2022, am 7:30 yng Nghanolfan Cymry Lerwpl, Auckland Road,
L18 0HX
Giraldus
Cambrensis: gossiping and crusading around Wales, 1188
Sgwrs gyda darluniau yn Saesneg gan Mike
Farnworth gyda gwestai arbennig - mynediad am ddim
Roedd Gerallt Gymro yn
offeiriad, awdur, gŵyr y Dywysoges Nest, ond yn bwysicaf
roedd e'n glebrwr ofnadwy. Yn ystod gwanwyn cynnar 1188
hebryngodd Gerallt Archesgob Caergaint o gwmpas Cymru, yn
recriwtio dynion i ymladd yn y drydedd Groesgad. Pedair
blynedd yn ddiweddarach ysgrifennodd lyfr enwog am ei
brofiadau.
Mae'r sgwrs hon yn rhoi cipolwg ar fywyd yng Nghymru
annibynnol yn ystod Oes y Tywysogion, trwy fapiau, lluniau,
straeon, a geiriau Gerallt Gymro ei hun. Mae llawer o
ddigwyddiadau go iawn yn ei lyfr, ond doedd Gerallt ddim yn
gallu peidio ag adrodd straeon od o ardaloedd ei daith hefyd.
Cysylltwch â ni:
Dr D. Ben Rees - garthdriveben@gmail.com
Rhiannon Liddell - r.liddell4024@yahoo.com
|