Braslun o Hanes Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi (
200-2020 )
Gan yr Ysgrifennydd, Dr Arthur Thomas, Allerton, Lerpwl.
Mewn cyfnod o ansicrwydd calondid o’r mwyaf yw
edrych yn ôl ar yr hyn mae’r Gymdeithas wedi ei gyflawnu ers ei
sefydlu ar droad y ganrif gyda D. Ben Rees yn gadeirydd, ac sy’n
dal yn egniol wrth y llyw. Bu ei wybodaeth ef o Gymry Lerpwl yn
gymhorth inni fel Pwyllgor gweithredu gyda rhaglen hynod o
uchelgeisiol. Erys tri aelod o’r pwyllgor cychwynol yn
ffyddlon sef Beryl Williams, Dr Pat Williams a Rachel Gooding
(Trysorydd) hyd heddiw, gyda Brian Thomas, Nan Hughes Parry,
Elin Bryn Boyd a minnau yn ysgrifennydd. Yn fras, bwriad y
Gymdeithas yw dathlu cyfraniad Cymry blaenllaw i fywyd a
diwylliant Cymraeg ar y Glannau ac yng Nghymru ac i’r gymdeithas
leol.
Ar gyfartaledd cynhaliwyd un neu ddwy ŵyl bob
blwyddyn, gyda eithriad sylweddol yn 2008 pan oedd Lerpwl yn
‘Ddinas Diwylliant’. Trefn gŵyl dros y penwythnos yw darlithiau
ar fore Sadwrn, cyngerdd yn yr hwyr a gwasanaeth o ddiochgarwch
ar fore Sul. Mae’r hanes yn hynod drawiadol. Gwahoddwyd rhyw
ugain o ddarlithwyr blaenllaw, heb gyfrif cyfraniadau gan
aelodau o’r pwyllgor. Ymysg enwau cyfarwydd mae Wyn James, Robin
Gwyndaf, Gwyn Thomas, Deryn Rees-Jones, Trevor Fishlock, Elvey
Macdonald, Huw Edwards, Peredur Lynch a’r paragon ddarlithydd
Hywel Teifi Edwards. Daeth rhyw bymtheg o gôrau atom gan gynnwys,
Côr y Rhos, Trelawnyd, Brythoniaid, Tŷ Tawe, Y Porthmyn a
Ieuenctid Môn. Hefyd cafwyd cyfraniadau cofiadwy gan Llyr
Williams, Robat Arwyn, Sion Goronwy, Trebor Edwards, Huw Ynyr a
Robin Huw Bowen.
Gweithred gyntaf y Gymdeithas yn 2002 oedd gosod
carreg ar fedd Gwilym Deudraeth ym mynwent Allerton. Wedyn
gosodwyd placiau ar gartrefi arbennig ac adeiladau crefyddol,
megis cartref Saunders Lewis yn Wallasey, safle capel Stanley
Road, Bootle, placiau i gofio Henry Rees, Chatham Street, a’i
frawd Gwilym Hiraethog, Grove Street. Gosodwyd plac hefyd yn
Devonshire Road, cartref J. Glyn Davies a George Ll. Davies.
Wedi hynny bu llu o wyliau i anrhydeddu unigolion, megis y
cerflynudd John Gibson, Pedrog, Moelwyn, John Thomas (tynnwr
lluniau), a David Roberts. Trefnwyd gwyliau yn olrhain
cyfraniadau cerddorion, adeiladwyr, cyhoeddwyr, y Gwasanaeth
Iechyd, ac i ddathlu deugain mlynedd o’r Angor.
Efallai mae y gwyliau mwyaf cofiadwy oedd dwy ŵyl
yn gysylltiedig a’r Mimosa (2008 a 2015) a Gŵyl Hedd Wyn
(2017). Gobeithiwyd ar un adeg gosod cofeb i’r Mimosa ar
y Pier Head ond ni fu modd gwneud hynny. Felly penderfynwyd cael
model o’r llong a’i chyflwyno i’r Amgueddfa Forwrol, lle mae yn
dal yn atyniad poblogaidd. Yn 2015 daeth cyfle i osod cofeb ar
lan yr afon (trwy haelioni Peel Holdings), ac fe gafwyd rhaglen
gynhwysfawr a fu yn atyniad mawr. Llywyddwyd y seremoni
ddadorchuddio gan Huw Edwards ym mhresenoldeb Yr Arglwydd Faer,
Prif Weinidog Cymru, yr Archdderwydd, Llysgennad yr Arianin, a
Chôr Ysgol yr Hendre, Trelew. Ym mis Medi 2017 daeth cynulleidfa
luosog i Ŵyl Hedd Wyn ym Mharc Penbedw i fwynhau darlithiau gan
D.Ben Rees, Robert Lee, Peredur Lynch a Huw Edwards,
dadorchuddio cofeb i Hedd Wyn yn y Parc, cadeirio’r bardd gan yr
Archdderwydd a chyngerdd gan ddau gôr yn yr hwyr. Casglwyd dros
ugain mil er hybu y ddwy ŵyl ac fe paratowyd dwy rhaglen
gynhwysfawr gan y cadeirydd. Elenbi yr oeddem wedi bwriadu
gweld dau ddigwyddiad yn chwe mis olaf y flwyddyn hon sef Gwyl
Emyr Wyn Jones a Enid Wyn Jones a hynny ar 19 a 20 Medi,
gwrthrychau teilwng iawn o’n gwrogaeth. Yna bwriedid cyhoeddi
cyfrol Saesneg amdanon Liverpool Welsh : A Remarkable History
yn mis Tachwedd 2020 ond yn awr fe gynhelir lawnsiad y gyfrol
hardd hon yn haf 2021, a diolchwn fod y rhoddion yn dal I
ddod atom ac y cawn gyfle I nawddogi y gyfrol hyd eithaf ein
gallu. Felly gofid ydyw ymddiheurio ond nid oes ffordd arall ae
ein cyfer.
|