D. Ben Rees (gol.), Meistri'r Awen (Cyhoeddiadau
Modern Cymreig, 2022). 226 tt. £15.
Wele gyfrol arall hynod hardd a phwysig a gyhoeddwyd gan
gwmni blaengar Cyhoeddiadau Modern Cymreig, Lerpwl. A'r
rheswm pennaf dros baratoi'r astudiaeth hon oedd ceisio
clodfori cyfraniad nifer o lenorion pwysig yn ein hanes oedd
yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes, ac felly mewn
perygl o fynd braidd yn angof erbyn hyn. Ar un olwg mae'n
dilyn patrwm y gyfrol Dyrnaid o Awduron Cyfoes,
astudiaeth a olygwyd eto gan y Dr D. Ben Rees bron i hanner
canrif yn ôl ym 1974. Rhoddwyd croeso brwdfrydig iddi ar y
pryd, mae'n dal yn ddefnyddiol i efrydwyr ein llên hyd at
heddiw, ac yn sicr ddigon rhoddir yr un croeso cynnes i'r
gyfrol fach hylaw hon.
Llwyddodd y golygydd egnïol, yn ôl ei arfer, i ddenu
cyfraniadau gwerthfawr, o safon uchel gan chwech o
ysgolheigion sydd wedi trwytho eu hunain yng ngwaith y
llenorion y disgrifir eu gwaith yma. Ac mae pob un o'r
llenorion yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes. Mae'r to
hŷn yn dal yn ymwybodol o'u cyfraniad, ond nid felly y to
iau – ar wahân efallai i gyhoeddiadau Caradog Pritchard a'i
nofel enwog Un Nos Ola Leuad.
I gychwyn, cawn ddarllen ysgrif feistrolgar gan Dr R. Alun
Evans ar weithiau'r 'cawr' Dr Iorwerth C. Peate (1901-82), '
y dyn digymrodedd, anoddefgar oedd hefyd yn llawn tynerwch a
hynawsedd', chwedl yntau. Yn hollol ar wahân i'w gyfraniad
aruthrol fel curadur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru yn Sain
Ffagan nid nepell o Gaerdydd, rhwng ei sefydlu ym 1948 hyd
at ei ymddeoliad oddi yno yn llawn anrhydeddau a pharch y
genedl, fe brofodd y Dr Peate ei hun yn ysgolhaig cadarn a
chynhyrchiol mewn nifer o feysydd gwahanol, yn llenor a
gyhoeddodd yn bur gyson ac yn fardd medrus a chrefftus.
Yna mae'r Dr Eirian Jones yn rhoi ei sylw i waith B. T.
Hopkins, Blaenpennal, y bardd cefn gwlad nodedig a hanai o
gefn gwlad sir Aberteifi a ddaeth yn feistr digymar efallai
ar ffurf y delyneg. Ceir cyfle gwych yma i werthfawrogi
nifer fawr o'i gyfraniadau, ac yn eu plith ei gywydd enwocaf
oll sef 'Rhos Helyg', a darllen am eu cefndir, ynghyd â
hanes personol y bardd a'r dylanwadau a fu arno. Gŵr ei
filltir sgwâr ydoedd yn ddios, ffermwr cefn gwlad a
phregethwr lleyg tra phoblogaidd.
Bardd arall o bwys oedd John Evans (sef Siôn Ifan), brodor o
Ddyffryn Ardudwy, ac ef sydd yn derbyn sylw ei ŵyr yma, sef
Aled Lewis Evans. Daw llawer iawn o wybodaeth newydd am y
cawr o fardd hwn i'r golwg o fewn yr ysgrif hon, a
chroniclir ei fywyd yn bur fanwl. Sonnir am ei gampau cyson
mewn eisteddfodau lleol a arweiniodd at gael ei gadeirio gan
yr Archdderwydd Cynan ym Mhrifwyl Aberystwyth, Awst 1952. O
fewn dwy flynedd gwta fe'i cadeiriwyd yn Eisteddfod
Genedlaethol Ystradgynlais, 1954. Ar ôl hynny,
canolbwyntiodd ar lunio toreth o benillion ysgafn a
chymdeithasol a nifer o englynion coffa fel arfer i bobl
Ardudwy. A da dros ben yw cael ein hatgoffa yma am ei
gyfraniadau pwysig dros nifer fawr o flynyddoedd.
Y golygydd y Dr D. Ben Rees sydd wedi dewis y nofelydd a'r
bardd Caradog Prichard (1904-80), 'y llenor pennaf o blith
yr alltudion Cymraeg', fel testun ei ymchwiliadau manwl, yn
aml yn seiliedig ar yr archif helaeth o'i bapurau sydd ym
meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys llawer o
ohebiaeth deuluol. Hynod ddifyr yw'r manylion am ei yrfa fel
newyddiadurwr a'i gyfeillgarwch gyda nifer o gewri eraill
fel Cynan, Prosser Rhys a John Eilian.
Yna mae Norman Clos Parry yn trafod bywyd a gwaith bardd
arall o bwys sef Einion Evans (1926-2009), yr unig brifardd
mewn gwirionedd a hanai o sir y Fflint ac awdur yr
hunangofiant o bwys sef Tri Chwarter Coliar (1991). A
dadansoddir ei gerddi a'i gyhoeddiadau yn bur ofalus yma.
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw thema'r cyfraniad olaf at y
casgliad gan y Dr Pat Williams, Lerpwl. A rhoddir sylw yma
i'w gyhoeddiadau niferus – dros 430 ohonynt, yn cynnwys
erthyglau amrywiol eu naws, yn feirniadaethau, yn
adolygiadau craff ac yn deyrngedau trwyadl. A chyfeirir at
Bedwyr yma fel 'ditectif geiriau' oedd yn fythol barod i
deithio ledled Cymru fach i ddarlithio ac annerch
cynulleidfaoedd amrywiol. Ei fethiant i ddweud 'Na' a
gyfrannodd yn drist iawn at ei farwolaeth gynamserol yn 58
mlwydd oed.
Nid y lleiaf o gryfderau'r gyfrol hon yw'r bywgraffiadau
cryno a geir yma o'r cyfranwyr dysgedig oll, a'r
llyfryddiaeth o gyhoeddiadau pwysicaf y chwe awdur sydd yn
cael eu trafod yma. A brithir y llyfr drwyddi draw gyda
nifer fawr iawn o ffotograffau hardd a phwysig.
J. Graham Jones
Cofiant arloesol a theilwng i un o gewri gwleidyddol yr
ugeinfed ganrif yng Nghymru
Adolygiad Dr J. Graham Jones o D. Ben Rees, Cymro i'r
Carn: Cofiant Gwilym Prys-Davies. Gwasg y Bwthyn. £12.95
(clawr meddal).
Pleser o'r mwyaf yw cael croesawu o'r diwedd cofiant
sylweddol a chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol mwyaf
nodedig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'n astudiaeth
hollbwysig. Roedd yr awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda am
nifer fawr o flynyddoedd ac yn gyfaill mynwesol iddo am
ddegawdau ar eu hyd, dros hanner canrif yn wir. Y mae'n
gwerthfawrogi ei rinweddau, ei gryfderau a'i gyfraniadau
mewn sawl cyfeiriad gwahanol.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn y flwyddyn 2017,
daeth archif bwysig o'i bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol,
a Ben Rees oedd un o'r ymchwilwyr cyntaf i wneud defnydd
helaeth ohonynt ar gyfer y llyfr hwn. Mae'r archif yn
cynnwys yn arbennig gohebiaeth anghyffredin o ddadlennol a
diddorol. Mae'r cofiant hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil
manwl mewn nifer fawr o archifau pwysig eraill sydd yn
berthnasol. (Gweler y rhestr helaeth ohonynt ar dud. 313 yn
y gyfrol.)
Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a
Cledwyn Hughes, sef y gwleidyddion y mae'r Dr D. Ben Rees
wedi llunio cofiannau sylweddol, uchel eu parch iddynt yn
barod (gan gynnwys cofiant i Griffiths yn y Saesneg yn
ogystal), nid gwleidydd proffesiynol, cyhoeddus yn yr un
modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies, ond un a lafuriai
yn aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar eraill a chyflawni
gwyrthiau yn dawel bach dros y genedl a garai a thros yr
iaith Gymraeg. Gan ei fod yn ŵr rhyfeddol o swil a
diymhongar wrth natur, ac yn hoffi byw ei fywyd yn yr
encilion, nid pawb a werthfawrogai ei gyfraniad dros y
blynyddoedd.
Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn bennaf
fel yr ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn isetholiad
nodedig sir Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966 pan gipiwyd y
sedd ymylol honno gan neb llai na'r Dr Gwynfor Evans,
llywydd Plaid Genedlaethol Cymru ers 1945. Disgrifir yr
ornest arbennig honno o fewn pennod 7 yn y cofiant (tt.
108-25) – sef 'isetholiad pwysicaf yr ugeinfed ganrif' ym
marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym Prys-Davies siom
aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth sir
Feirionydd. (Gweler pennod 6 yma.)
Ond mae llawer iawn mwy i drafod wrth gwrs. Fel y gwelwn
wrth ddarllen y llyfr, gwnaeth Gwilym waith arloesol i
hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y llysoedd yn ystod y
1960au. Roedd hefyd yn un o'r selogion a frwydrodd yn
amyneddgar i sefydlu S4C fel sianel ar gyfer darlledu trwy
gyfrwng yr iaith Gymraeg ym 1982. Ac roedd ei gyfraniad yn
amhrisiadwy wrth lunio Deddfau'r Iaith Gymraeg 1967 ac eto
1993.
Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei
gefnogaeth i hybu datganoli yng Nghymru o'r 1960au ymlaen,
gweithredodd fel 'cynghorydd arbennig' i John Morris AS pan
roedd yntau yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn y 1970au,
roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol o Fwrdd Ysbytai Cymru
am flynyddoedd ar eu hyd, a thaflodd ei hun i mewn i fywyd
Tŷ'r Arglwyddi gydag ymroddiad bywiog a brwdfrydedd
anghyffredin. Enillodd barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn.
A phriodol iawn yw'r ffaith i Ben Rees gyflawni'r astudiaeth
hon i'r Arglwydd John Morris.
Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli'n llwyr yr elfennau
hynny a ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a chymeriad ei
wrthrych. Yn eu plith mae ei gefndir teuluol yn Llanegryn,
sir Feirionydd, ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth, ei waith o
fewn Mudiad Gweriniaethol Cymru, a'i berthynas agos a
phwysig gyda Goronwy O. Roberts AS a Huw T. Edwards. Ac mae
nifer fawr o wleidyddion Llafur eraill yr ugeinfed ganrif
yng Nghymru hefyd yn cael eu lle o fewn y stori ryfeddol
hon.
Llunnir y cyfan o'r testun o glawr i glawr mewn Cymraeg
graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur yn wresog
ar gyhoeddi campwaith pwysig arall eto a fydd yn sicr yn
derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o ddarllenwyr
gwerthfawrogol ein cenedl.
Cofiant arloesol a theilwng i un o gewri gwleidyddol yr
ugeinfed ganrif yng Nghymru
Adolygiad
Dr J. Graham Jones o D. Ben Rees, Cymro i'r Carn:
Cofiant Gwilym Prys-Davies. Gwasg y Bwthyn. £12.95 (clawr
meddal).
Pleser o'r mwyaf yw cael croesawu o'r diwedd cofiant
sylweddol a chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol
mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'n
astudiaeth hollbwysig. Roedd yr awdur yn adnabod ei
wrthrych yn dda am nifer fawr o flynyddoedd ac yn
gyfaill mynwesol iddo am ddegawdau ar eu hyd, dros
hanner canrif yn wir. Y mae'n gwerthfawrogi ei rinweddau,
ei gryfderau a'i gyfraniadau mewn sawl cyfeiriad
gwahanol.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn y flwyddyn
2017, daeth archif bwysig o'i bapurau i'r Llyfrgell
Genedlaethol, a Ben Rees oedd un o'r ymchwilwyr cyntaf i
wneud defnydd helaeth ohonynt ar gyfer y llyfr hwn.
Mae'r archif yn cynnwys yn arbennig gohebiaeth
anghyffredin o ddadlennol a diddorol. Mae'r cofiant
hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil manwl mewn nifer
fawr o archifau pwysig eraill sydd yn berthnasol. (Gweler
y rhestr helaeth ohonynt ar dud. 313 yn y gyfrol.)
Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a
Cledwyn Hughes, sef y gwleidyddion y mae'r Dr D. Ben
Rees wedi llunio cofiannau sylweddol, uchel eu parch
iddynt yn barod (gan gynnwys cofiant i Griffiths yn y
Saesneg yn ogystal), nid gwleidydd proffesiynol,
cyhoeddus yn yr un modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies,
ond un a lafuriai yn aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar
eraill a chyflawni gwyrthiau yn dawel bach dros y genedl
a garai a thros yr iaith Gymraeg. Gan ei fod yn ŵr
rhyfeddol o swil a diymhongar wrth natur, ac yn hoffi
byw ei fywyd yn yr encilion, nid pawb a werthfawrogai ei
gyfraniad dros y blynyddoedd.
Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn
bennaf fel yr ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn
isetholiad nodedig sir Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966
pan gipiwyd y sedd ymylol honno gan neb llai na'r Dr
Gwynfor Evans, llywydd Plaid Genedlaethol Cymru ers
1945. Disgrifir yr ornest arbennig honno o fewn pennod 7
yn y cofiant (tt. 108-25) – sef 'isetholiad pwysicaf yr
ugeinfed ganrif' ym marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym
Prys-Davies siom aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd
ar gyfer etholaeth sir Feirionydd. (Gweler pennod 6 yma.)
Ond mae llawer iawn mwy i drafod wrth gwrs. Fel y
gwelwn wrth ddarllen y llyfr, gwnaeth Gwilym waith
arloesol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y
llysoedd yn ystod y 1960au. Roedd hefyd yn un o'r
selogion a frwydrodd yn amyneddgar i sefydlu S4C fel
sianel ar gyfer darlledu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg
ym 1982. Ac roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio
Deddfau'r Iaith Gymraeg 1967 ac eto 1993.
Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei
gefnogaeth i hybu datganoli yng Nghymru o'r 1960au
ymlaen, gweithredodd fel 'cynghorydd arbennig' i John
Morris AS pan roedd yntau yn Ysgrifennydd Gwladol dros
Gymru yn y 1970au, roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol
o Fwrdd Ysbytai Cymru am flynyddoedd ar eu hyd, a
thaflodd ei hun i mewn i fywyd Tŷ'r Arglwyddi gydag
ymroddiad bywiog a brwdfrydedd anghyffredin. Enillodd
barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn. A phriodol iawn
yw'r ffaith i Ben Rees gyflawni'r astudiaeth hon i'r
Arglwydd John Morris.
Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli'n llwyr yr
elfennau hynny a ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a
chymeriad ei wrthrych. Yn eu plith mae ei gefndir
teuluol yn Llanegryn, sir Feirionydd, ei ddyddiau coleg
yn Aberystwyth, ei waith o fewn Mudiad Gweriniaethol
Cymru, a'i berthynas agos a phwysig gyda Goronwy O.
Roberts AS a Huw T. Edwards. Ac mae nifer fawr o
wleidyddion Llafur eraill yr ugeinfed ganrif yng Nghymru
hefyd yn cael eu lle o fewn y stori ryfeddol hon.
lunnir y cyfan o'r testun o glawr i glawr mewn Cymraeg
graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur yn
wresog ar gyhoeddi campwaith pwysig arall eto a fydd yn
sicr yn derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o
ddarllenwyr gwerthfawrogol ein cenedl.
|
D. Ben Rees (gol.), Meistri'r Awen
(Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2022). 226 tt. £15.
Wele gyfrol arall hynod hardd a phwysig a gyhoeddwyd gan
gwmni blaengar Cyhoeddiadau Modern Cymreig, Lerpwl. A'r
rheswm pennaf dros baratoi'r astudiaeth hon oedd ceisio
clodfori cyfraniad nifer o lenorion pwysig yn ein hanes
oedd yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes, ac felly
mewn perygl o fynd braidd yn angof erbyn hyn. Ar un olwg
mae'n dilyn patrwm y gyfrol Dyrnaid o Awduron Cyfoes,
astudiaeth a olygwyd eto gan y Dr D. Ben Rees bron i
hanner canrif yn ôl ym 1974. Rhoddwyd croeso brwdfrydig
iddi ar y pryd, mae'n dal yn ddefnyddiol i efrydwyr ein
llên hyd at heddiw, ac yn sicr ddigon rhoddir yr un
croeso cynnes i'r gyfrol fach hylaw hon.
Llwyddodd y golygydd egnïol, yn ôl ei arfer, i ddenu
cyfraniadau gwerthfawr, o safon uchel gan chwech o
ysgolheigion sydd wedi trwytho eu hunain yng ngwaith y
llenorion y disgrifir eu gwaith yma. Ac mae pob un o'r
llenorion yn dyddio o gyfnod arbennig yn ein hanes.
Mae'r to hŷn yn dal yn ymwybodol o'u cyfraniad, ond nid
felly y to iau – ar wahân efallai i gyhoeddiadau Caradog
Pritchard a'i nofel enwog Un Nos Ola Leuad.
I gychwyn, cawn ddarllen ysgrif feistrolgar gan Dr R.
Alun Evans ar weithiau'r 'cawr' Dr Iorwerth C. Peate
(1901-82), ' y dyn digymrodedd, anoddefgar oedd hefyd yn
llawn tynerwch a hynawsedd', chwedl yntau. Yn hollol ar
wahân i'w gyfraniad aruthrol fel curadur cyntaf
Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan nid nepell o
Gaerdydd, rhwng ei sefydlu ym 1948 hyd at ei ymddeoliad
oddi yno yn llawn anrhydeddau a pharch y genedl, fe
brofodd y Dr Peate ei hun yn ysgolhaig cadarn a
chynhyrchiol mewn nifer o feysydd gwahanol, yn llenor a
gyhoeddodd yn bur gyson ac yn fardd medrus a chrefftus.
Yna mae'r Dr Eirian Jones yn rhoi ei sylw i waith B. T.
Hopkins, Blaenpennal, y bardd cefn gwlad nodedig a hanai
o gefn gwlad sir Aberteifi a ddaeth yn feistr digymar
efallai ar ffurf y delyneg. Ceir cyfle gwych yma i
werthfawrogi nifer fawr o'i gyfraniadau, ac yn eu plith
ei gywydd enwocaf oll sef 'Rhos Helyg', a darllen am eu
cefndir, ynghyd â hanes personol y bardd a'r dylanwadau
a fu arno. Gŵr ei filltir sgwâr ydoedd yn ddios, ffermwr
cefn gwlad a phregethwr lleyg tra phoblogaidd.
Bardd arall o bwys oedd John Evans (sef Siôn Ifan),
brodor o Ddyffryn Ardudwy, ac ef sydd yn derbyn sylw ei
ŵyr yma, sef Aled Lewis Evans. Daw llawer iawn o
wybodaeth newydd am y cawr o fardd hwn i'r golwg o fewn
yr ysgrif hon, a chroniclir ei fywyd yn bur fanwl.
Sonnir am ei gampau cyson mewn eisteddfodau lleol a
arweiniodd at gael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Cynan
ym Mhrifwyl Aberystwyth, Awst 1952. O fewn dwy flynedd
gwta fe'i cadeiriwyd yn Eisteddfod Genedlaethol
Ystradgynlais, 1954. Ar ôl hynny, canolbwyntiodd ar
lunio toreth o benillion ysgafn a chymdeithasol a nifer
o englynion coffa fel arfer i bobl Ardudwy. A da dros
ben yw cael ein hatgoffa yma am ei gyfraniadau pwysig
dros nifer fawr o flynyddoedd.
Y golygydd y Dr D. Ben Rees sydd wedi dewis y nofelydd
a'r bardd Caradog Prichard (1904-80), 'y llenor pennaf o
blith yr alltudion Cymraeg', fel testun ei ymchwiliadau
manwl, yn aml yn seiliedig ar yr archif helaeth o'i
bapurau sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, gan
gynnwys llawer o ohebiaeth deuluol. Hynod ddifyr yw'r
manylion am ei yrfa fel newyddiadurwr a'i gyfeillgarwch
gyda nifer o gewri eraill fel Cynan, Prosser Rhys a John
Eilian.
Yna mae Norman Clos Parry yn trafod bywyd a gwaith
bardd arall o bwys sef Einion Evans (1926-2009), yr unig
brifardd mewn gwirionedd a hanai o sir y Fflint ac awdur
yr hunangofiant o bwys sef Tri Chwarter Coliar
(1991). A dadansoddir ei gerddi a'i gyhoeddiadau yn bur
ofalus yma.
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw thema'r cyfraniad olaf
at y casgliad gan y Dr Pat Williams, Lerpwl. A rhoddir
sylw yma i'w gyhoeddiadau niferus – dros 430 ohonynt, yn
cynnwys erthyglau amrywiol eu naws, yn feirniadaethau,
yn adolygiadau craff ac yn deyrngedau trwyadl. A
chyfeirir at Bedwyr yma fel 'ditectif geiriau' oedd yn
fythol barod i deithio ledled Cymru fach i ddarlithio ac
annerch cynulleidfaoedd amrywiol. Ei fethiant i ddweud
'Na' a gyfrannodd yn drist iawn at ei farwolaeth
gynamserol yn 58 mlwydd oed.
Nid y lleiaf o gryfderau'r gyfrol hon yw'r
bywgraffiadau cryno a geir yma o'r cyfranwyr dysgedig
oll, a'r llyfryddiaeth o gyhoeddiadau pwysicaf y chwe
awdur sydd yn cael eu trafod yma. A brithir y llyfr
drwyddi draw gyda nifer fawr iawn o ffotograffau hardd a
phwysig.
J. Graham Jones
|
His ode, "Yr Arwr" with English
translation click
here
D. Ben Rees (ed.), Hedd Wyn and the Black
Chair Festival:
Poet-Shepherd of the First World War. Gwasg y Lolfa.
2018. 95 pp. £6.99.
This slim volume abounds with exceptionally interesting and
historically significant material published following the
convention of the Black Chair festival at Birkenhead Park
during September 2017 – an ambitious, successful undertaking
which reflects great credit on its organizers who laboured
hard for several months, displaying much dedication and
patience. Our sincere thanks to them all.
This is a volume to celebrate the life of the one and only
Hedd Wynn, namely Ellis Humphrey Evans, a native of the
Trawsfynydd area, a well-known local shepherd and the poet
who won the chair at the Birkenhead National Eisteddfod,
September 1917, but by the day on which the chairing
ceremony was held he had been killed during the course of
the famous Battle of Pilkem Ridge in the First World War, on
the last day of July – an exceptionally painful event in our
history and historiography as a nation and one which is
certainly worth commemorating in our day and age. As part of
this ambitious, pioneering festival, arrangements were made
for a number of public lectures, several concerts and a
singing festival which proved to be sensational and
impactful. In addition many young poets were given the
opportunity to submit their works for the festival's chair
and crown – in both Welsh and English.
And the main organizer of this event was the Rev Dr
Professor D. Ben Rees, an outstandingly dedicated and hard
working individual, ever dynamic in his approach, and an
academic historian with a huge personal presence and a
prodigious scholarly output. And Dr Rees was one of the most
enthusiastic founders of the Merseyside Welsh Heritage
Society, a body which he has supported with exemplary
dedication over many years. The volume includes a number of
contributions in both Welsh and English.
And one of the most important contributions to this volume
is a concise essay by Dr Rees on the historical context of
the Black Chair Eisteddfod of 1917. And the main theme of
this piece is the part played by the Welsh in the history of
the Birkenhead area, and due mention is made of some of the
Welsh who migrated to this particular area, thence
contributing substantially to the development of the Welsh
chapels within Birkenhead and helping to host the 1917
National Eisteddfod there, a major challenge given the
problems posed by the war at that time.
One of the most attractive events of the festival in 2017
was an exceptionally accomplished lecture by Professor
Peredur Lynch of Bangor on the theme 'Hedd Wyn and the
Public Memory'. And the Honourable Society of Cymmrodorion
was responsible for hosting this lecture. Then we have an
opportunity to read a further lecture, now in English, by
Huw Edwards, a familiar face on the television screen in our
living rooms for many years. Huw presents us with a masterly
dissection of the role played by David Lloyd George and
other Liberal politicians in introducing military
conscription at the height of the Great War in 1916 and
1917.
Most of the rest of the volume comprises the texts of the
adjudications for the Chair and the Crown during the 2017
festival and the poems which were successful, each the work
of young, promising poets and writers, in both Welsh and
English. The chair was awarded for a poem or series of poems
on the subject of Hedd Wyn. The two adjudicators were Dr
Robin Gwyndaf and Dr Siôn Aled Owen, and Martin Huws won the
prize in an uncommonly strong field of competitors.
Most interesting is the opportunity to read some of the
sincere appreciative letters which came to hand to thank the
organisers on their success in arranging such a appealing
event, together with a note of warm thanks from Dr D. Ben
Rees. And to crown the publication is an array of splendid
colour photographs taken during the celebrations at
Birkenhead in September 2017. One must also congratulate Y
Lolfa on publishing a most attractive and appealing little
volume which captivates both the eye and the mind. Well
done, everybody.
J. Graham Jones |