|
Dathlu
50 mlynedd fel Gweinidog ac Arweinydd y Presbyteriaid yn
Lerpwl. / Celebrating 50 years as Minister of Welsh
Presbyterians in Liverpool. in a Service at Bethel
Presbyterian Church of Wales, Heathfield Road/ Auckland
Road, Liverpool 15./18 on 22 July, 2018. |
|
|
|

Nerys Vaughan Jones yn synnu at y wledd ar ol yr Oedfa/
Nerys Vaughan Jones is amazed at the meal
provided for the congregation. |

Teulu Jo Clitherow and Mr and Mrs Gaynor Hunt
Family of Jo Clitherow and Mr and Mrs Gaynor Hunt |
|
|
|

Wena Evans a Rhiannon Liddell ( one of the organists )
+ |

Cynulleidfa Bethel yn moli yr Arglwydd
Congregation at Bethel |
|
|
|

Arweinwyr Presbyteriaeth Gymraeg 2018 / Leaders of Welsh
Presbyterianism in Liverpool in the year 2018 |

Norma Closs Parry yn cyflwyno Cywydd I Dr DB Rees/ The poet
Norman Closs Parry presenting the poem
he wrote on the Celebration |
|
|
|

Darllen Gair Duw / Reading the Word of God |

Blaenoriaid Bethel a Bethania / Elders of Bethel
and Bethania Chapels |
|
|
|

Norman Closs a’I ferch a’r wyres
The poet and his family |

Gwyn Jones, Ben Hughes,
Terry and Phyllis O’Neill, Mair Rees Jones |
|
|

R.Ifor Griffith, Mair Roberts a Rhiannon Liddell |

Elin and Jim Boyle and Blodwen
Roberts |
|
|
|

Susan Evans and Margaret Rowlands |

The Clitherow and Hunt
families |
|
|
|

Dr John yn cyflwyno I Dr Ben anrheg
Dr John presenting a gift to Dr Ben |
.jpg)
Norman Cloos Parry yn cyflwyno Cywydd I DBr
The poet Norman Closs Parry presenting the poem dedicated to Dr Rees
|
|
|
|
Y Rhai a gymerodd ran yn
yr oedfa / Those who took part in the service : |
|
|
|

Mr John P.Lyons Llywydd/ Presiding |

Nan Hughes Parry |
|
|
|

Dr Pat Williams |

Mrs Mair Rees Jones |
|
|
|
.jpg)
Margaret Anwyl Williams ( organydd/organist ) |

W.Meirion Evans |
|
|
|

Dr John G. Williams |

Dr D.Ben Rees |
|
|
|
.jpg)
Y Gynulleidfa / The congregation |
|
|
Cymdeithas
Lenyddol Bethel, Lerpwl
Y RHWYD
Cylchlythyr Eglwysi Bresbyteraidd Cymru,
Bethel, Heathfield Road / Auckland Road, L15 9EU a
Bethania, Crosby Road South, Waterloo L22 1RJ
Annwyl Aelodau,
“Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr yn dwyn ei waith i ben.”
Felly y dywed William
Cowper
yn ei emyn. Ychydig feddyliwn i y byddai’r cyfrifoldeb a’r fraint
o baratoi Y
Rhwyd yn
disgyn arnaf fi, ond dyna fo – rhaid oedd camu i’r adwy a
chynorthwyo’r
Dr Ben
Rees ar yr awr anodd yma yn ei hanes, a’i annwyl briod, Meinwen
wedi bod
mor
eithriadol wael. Mae meddwl ei fod wedi bod wrthi’n dwyn
Y
Rhwyd
i olau
dydd
yn
ddi-fwlch am gyfnod o hanner can mlynedd yn record anghyffredin,
ac yn haeddu
ein
cymeradwyaeth gwresocaf. Gwyddom i gyd am egni di-ddiwedd ein
gweinidog,
am ei
frwdfrydedd yn y gwaith ac am ei drylwyredd yn paratoi’r cyfan.
Derbynied ein
diolch
diffuantaf. Ni allodd fod wedi cyflawni’r hanner oni bai am
gefnogaeth ei
annwyl
Meinwen. Diolchwn iddi hithau am ei holl waith ar hyd y
blynyddoedd fel
gwraig a
merch y mans, ac eiddunwn adferiad buan iawn iddi. Rydym wedi
gweld ei
cholli’n
fawr iawn.
Cofio
Henry Rees
Mae hi’n
teimlo’n amser pell yn ôl erbyn hyn, ond drwy wahoddiad Dr Ben
Rees,
cafodd
Cantorion Bethel
o dan
arweiniad Mr R. Ifor Griffith a chyda chyfeiliant
Margaret
Anwyl Williams y fraint o gymryd rhan mewn noson yn Llansannan i
gofio’r
pregethwr a’r cymeriad unigryw hwnnw, Henry Rees, a dreuliodd ran
helaethaf ei
fywyd yn
Lerpwl. Braint oedd cael gwrando ar y Parchedig Ddr Goronwy Prys
Owen,
Y Bala
yn darlithio ar hanes y gŵr rhyfeddol hwn.
Coffad:
Mair Williams, Gatecare (1935-2019)
Ym
marwolaeth y chwaer addfwyn ac annwyl hon wedi cystudd byr, fe’n
hamddifadwyd ni a’n bylchu’n arw fel cymuned Gymraeg. Yn un o
chwech o ferched,
ac yn
berson galluog iawn, fe aned Mair yng Nghefnbodig, ger tref y Bala,
ac yn ei
thro, fe
gafodd fynd i’r Coleg Normal i hyfforddi fel athrawes. Fel
ugeiniau o’i
chyfoedion, mentrodd dros y ffin i ennill i bywoliaeth, ac yn ei
hachos hi, i ddinas
Lerpwl,
a hynny ym 1956. Ysgol Joseph Williams oedd man ei swydd gyntaf –
ysgol
o 700 o
blant, lle roedd y diprwy cadarn, R. Ifor Griffith wrth law iddi.
Credai Mair
Williams
y dylasai pob plentyn gael dechreuad da i’w bywyd a phob chwarae
teg, ac,
fel y
person cydwybodol, dibynadwy ag oedd hi, a thrwy ddisgyblaeth, fe
lwyddodd i
ysbrydoli cenhedlaeth o blant.
Cylchlythyr Eglwysi Bresbyteraidd Cymru,
Bethel, Heathfield Road / Auckland Road, L15 9EU a
Bethania, Crosby Road South, Waterloo L22 1R
MEDI - HYDREF 2019
O Ysgol
Joseph Williams, symudodd i Ysgol Dovedale, Allerton, lle, unwaith
eto,
roedd
Cymry ymhlith y staff. Ac wrth sôn am ei chyd-Gymry, mae’n deg
dweud y bu
Mair
Williams yn hynod driw i’w gwreiddiau o’r dechrau, gan ymuno yn y
llu o
weithgareddau oedd ar gael bryd hynny i Gymry alltud Lerpwl, yn
cynnwys Clwb y
Cymry,
lle y cyfarfu ag un o Gymry’r ddinas, sef David John Williams,
Stoneycroft.
Priododd
y ddau ym 1961 a blwyddyn yn ddiweddarach ymaelododd Mair yn
Heathfield Road gan gymryd mantais o’r arlwy oedd yno, boed yn
ddefosiwn neu’n
ddiwylliant. Bendithiwyd yr aelwyd yn Gateacre â thair o ferched,
ac estynnwn ein
cydymdeimlad dwysaf â hwy yn eu profedigaeth, sef Helen a’r
efeillliaid Carol ac
Angela,
heb anghofio David John, fu mor ofalus ohoni. Heddwch i’w llwch.
Ymddiheuriad
Rwy’n
ymddiheuro mewn sachlïain a lludw na welsoch chi gopi mis Awst
eleni. Fy
mai i,
Robert, oedd hynny. Mewn anwybodaeth llwyr y gwneuthum y camwri,
gan nad
oeddwn
yn deall bod rhifyn Awst i’w gael. Byddaf yn gwybod erbyn y
flwyddyn nesaf!
Gobeithio y caf faddeuant!
Gwyliau’r Cynorthwy-ydd Bugeiliol
Er eich
gwybodaeth, byddaf i ffwrdd yn y garafan rhwng Awst 30ain a Medi’r
7fed,
ar ôl
gweithio drwy fis Awst a cheisio cael trefn ar ein cartref newydd.
Dyma’r
cyfeiriad:
Bryn
Dedwydd, 2 County Road, Coed-llai, Sir y Fflint CH7 4RF.
Ffôn:
(01352) 391310
Ffôn
symudol mewn argyfwng: 07766 515639
E-bost:
rob.parry@live.co.uk
Aelod
Newydd
 Gŵyl
Dathlu’r Angor yn cyrraedd ei huchafbwynt, cafodd y Dr Ben Rees y
fraint,
yn ystod
oedfa’r bore ar Orffennaf 21ain, o dderbyn y Parchedig Robert
Parry yn aelod
atom i
Fethel. Darllenwyd llythyr yng ngwydd y gynulleidfa oddi wrth Mrs
Marian
Lloyd
Jones, Ysgrifennydd Capel y Groes, Wrecsam, yn tystio i’w
weithgarwch diflino
fel
pregethwr grymus, bugail gofalus ac arweinydd cydwybodol. Rydym
fel
eglwysi
ar y Glannau yn estyn croeso twymgalon iddo, ac yn dymuno’r gorau
iddo yn
ei swydd.
Gŵyl
Dathlu’r Angor yn Ddeugain Oed
I
ddathlu penblwydd
Yr
Angor
yn
ddeugain oed, cawsom benwythnos i’w gofio ar
Orffennaf 20fed-21ain ar ffurf darlithoedd cofiadwy a chyngerdd
gwych gyda Chôr
Bara
Brith o Sir Fôn; cinio godidog yng Nghlwb Golff Woolton a sgwrs
hynod ddifyr
a
chofiadwy gan Dr Huw Edwards, Llundain; oedfa wych ar y bore Sul
wedi’i
threfnu’n effeithiol dros ben gan ein gweinidog, gan orffen ar y
prynhawn Sul gyda
Chymanfa
Ganu o dan arweiniad ein Cynorthwy-ydd Bugeiliol, y Parchedig
Robert
Parry.
Cleifion
Fe’n
brawychwyd ni i gyd o glywed am waeledd sydyn a difrifol Mrs
Meinwen
Rees, a
hynny yn dilyn codwm yn ei chartref yn Garth Drive. Gorfu iddi
dreulio
wythnosau lawer yn yr Ysbyty Frenhinol, ond cafodd bob ymgeledd,
ac mae hi’n
gwerthfawrogi’r llu cerdiau a gafodd yn dymuno adferiad buan iddi.
Bellach, mae hi’n
derbyn
gofal mewn canolfan arbennig yn Princes Park, ac yn ôl pob golwg
yn gwneud
yn dda
yno. Gobeithiwn yn wir y gall ddod adref ar fyrder. Mae ei lle yn
rhyfeddol o
wag. Yr
un mor ddisymwth oedd yr alwad gafodd Nerys Vaughan Jones,
Aigburth
Vale,
i’r Ysbyty Frenhinol, a derbyn yno lawdriniaeth fawr ar y galon
cyn symud yn ei
blaen i
Broad Green. Rydym yn falch o glywed ei bod yn gwneud yn dda, er
ei bod yn
dal yn
yr ysbyty. Llawenhawn o weld Mrs Lilian Coulthard yn ôl yn y pethe
gyda ni,
a hithau
wedi cael clun newydd dros yr haf.
Cydymdeimlo
Estynnwn
ein cydymdeimlad cywiraf ag Eryl Dooling, Rainhill ar golli ei
modryb
yng
Nghymru. Meddyliwn amdani.
Apêl
am Arian at y gyfrol ar Hanes Lerpwl
Fel y
gwyddoch erbyn hyn, bydd cyfrol hardd a gwerthfawr yn cael ei
lansio ar
Hanes
Cymry Lerpwl ar Dachwedd 26ain am 7.30 yng Nghanolfan y Cymry,
Auckland
Road/Heathfield
Road, sef ffrwyth ymchwil ein gweinidog, Dr Ben Rees. Gwahoddir
chi i
gyfrannu yn ôl eich gallu tuag at y fenter hon. Bydd y sawl sy’n
cyfrannu £50 yn
cael
derbyn copi clawr caled Cymraeg/Saesneg a bydd eu henwau’n cael eu
rhestru
ymhlith
y tanysgrifwyr yn y cyfrolau. Gwledd arall i’n disgwyl o ddwylo un
sy’n ddistop
ei
gyfraniad.
Priodas
Llongyfarchiadau gwresog (a gwresog mewn mwy nag un ystyr - roedd
hi’n
ddiwrnod
chwilboeth ar Orffennaf 5ed!) i Sara, merch Dr John a Mrs Beryl
Williams
a John
Fielding. Byddant yn ymgartrefu yn Woolton. Dymunwn bob hapusrwydd
iddynt
i’r dyfodol.
Llwyddiant yr Ifainc
Llongyfarchiadau calonnog iawn i Lisa Hartley ar ennill gradd ym
Mhrifysgol
Caerdydd
ac i Olivia See ar sicrhau gradd dosbarth cyntaf yn yr un un
brifysgol. Bydd
lluniau
o’r ddwy yn rhifyn nesaf
Yr
Angor.
Dechrau Canu, Dechrau Canmol
Cofier
am ein Cymanfa Ganu ar Hydref 13eg. Bydd hon yn foddion ymarfer at
recordiad o
Ddechrau Canu, Dechrau Canmol
gydag
S4C ar Nos Sadwrn, Hydref
26ain,
6.00-8.00. Dowch yn llu.
Calendr
Tachwedd
- Rhagfyr 2019
Y RHWYD
Tachwedd-Rhagfyr
2019
Cylchlythyr Eglwys
Bresbyteraidd Cymru,
Bethel, Heathfield
Road/Auckland Road, L15 9EU a
Bethania, Crosby Road South,
Waterloo L22 1RJ
Annwyl
Aelodau,
Yn Salm 90, fe gawn y geiriau hyn
o eiddo’r Salmydd, “Treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl..”
Dyma’r union eiriau a ddefnyddiodd Syr John Morris-Jones yntau yn
ei englyn wrth adleisio’i brofiad o fywyd a’i ddirgelwch ac o
sydynrwydd ei ddiflaniad:
“Ystyriwch fel ystori,
Eich hoedl a aeth – chwedl
yw hi.”
Fel y Salmydd
gynt, fe allwn ninnau hefyd ddweud, “Treuliasom ein blynyddoedd
fel chwedl.” Fel y mae’r amser yn gwibio heibio! Pwy fyddai
wedi meddwl ein bod yn prysur dynnu tua diwedd blwyddyn arall yn
ein hanes? Bu hon yn flwyddyn gyffrous ar lawer ystyr, ac, os y
ca’ i ddweud, un llawn cyffro i mi yn bersonol. Mae hi’n anodd gen
i gredu fy mod wedi bod yma bellach am chwe mis, ond dyna’r gwir.
Fe ddaw digon o gyfleon eto i adrodd am beth o’r gwaith yr ydw i’n
cael y fraint o’i gylfawni yn eich plith, ond digon yw dweud fy
mod yn cael blas anghyffredin arno fo, ac yn ei theimlo hi’n
anrhydedd cael bod yma o gwbl. Mi rydw i’n diolch ichi unwaith eto
am imi dderbyn y fath groeso a chefnogaeth yn yr alwad newydd hon,
ac mi rydw i’n diolch yn ddyddiol i’r Un a’m galwodd yma am
ymddiried y dasg arswydus fawr i’m gofal. Bendith arnoch chi wrth
ichi ymbaratoi at Ŵyl y Geni unwaith yn rhagor.
Recordio
Dechrau Canu, Dechrau Canmol
Hyfrydwch o’r
mwyaf oedd cael gweld y tŷ yn llawn ym Methel ar Nos Sadwrn,
Hydref 26ain a ninnau’n estyn croeso Cymry Lerpwl a’r cyffiniau ar
ei orau i gyfeillion y camerâu recordio ar ran y Rhaglen
boblogaidd Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Braint oedd derbyn
o arweiniad Mr Geraint Roberts, Prestatyn a Chôr Ger y Ffin i roi
hwb inni yn y canu mawl. ’Doedd dim rhaid i neb fod wedi poeni am
lwyddiant y noson, oherwydd yr oedd y canu’n wefreiddiol. Rhaid
diolch yn y fan hyn i’n horganyddes fedrus, Margaret Anwyl
Williams ac i’n hyfforddwr, y cyfaill hoffus, R. Ifor Griffith am
fynd ati a chynnal rihyrsals a thrwytho’n cantorion yn y tonau, a
hynny yn ôl ei hynawsedd arferol. Roedd yn ddetholiad blasus o
emynau a thonau ag iddyn nhw gysylltiad uniongyrchol a dinas
Lerpwl, a phrofiad arbennig oedd cael canu’r dôn Liverpool
gan Ieuan Gwyllt, oedd, gyda llaw, yn yr hen llyfr emynau
gwreiddiol. Diolch i bawb sicrhaodd bod y noson yn llwyddiant, a
neb yn fwy felly na Dr Ben Rees a frwydrodd yn galed i ddwyn y
rhaglen i olau dydd. Edrychwn ymlaen yn eiddgar am gael gweld yr
hanner cyntaf fis Chwefror, 2020.
Coffâd:
Athro Emeritus David Alan Price Evans (1927-2019)
Un o Gymry’r
Glannau oedd y cymeriad diddorol a gwahanol hwn, ac er
crwydro’r byd, yn ôl ar y Glannau y treuliodd ran helaethaf ei
fywyd, gan farw yn yr union ysbyty y daliodd gysylltiad â hi dros
hir amser. Fe’i ganwyd o ym Mhenbedw ond yn fuan iawn, symudodd ei
dad i swydd Postfeistr Llythyrdy Llangefni ac yno y cafodd ei
addysg elfennol. Roedd Môn yn golygu llawer iddo, ac yno, ym
mynwent Eglwys Llangristiolus, y cafodd ei gladdu. A dyna inni
ddatgelu rhan o unigrywiaeth David Price Evans, oherwydd
Presbyteriad oedd o ar hyd ei oes, gyda’i daid a’i ewythr yn
weinidogion gyda’r Hen Gorff. Pan oedd David yn barod i gael ei
addysg uwchradd, fe symuodd ei dad i Sir y Fflint, a chafodd y mab,
oedd yn hynod addawol, fynd i Ysgol Ramadeg Treffynnon lle y
disgleiriodd. Fe’i derbyniwyd o i Brifysgol Lerpwl ym 1945, a byth
oddi ar hynny, Lerpwl oedd pob peth ganddo. Ennillodd radd mewn
gwyddoniaeth i ddechrau ac yna radd meddygaeth yn yr Adran
Feddygaeth. ’Does dim dwywaith mai yfô oedd y mwyaf galluog o’i
genhedlaeth. Cipiodd amyw byd o wobrau, yn cynnwys gwobr O. T.
Williams.
Ymunodd gyda’r
RAMC yn y Dwyrain Pell adeg y Gwasanaeth Milwrol, gan gofalu am y
milwyr a anafwyd yn Rhyfel Corea a Rhyfel Malaysia. Rhyfedd meddwl
iddo, flynyddoedd wedyn, dreulio pum mlynedd ar hugain yn ysbyty
bwysicaf Riaydh yn Saudi Arabia. Dychwelodd i Lerpwl, cwblhau ei
addysg a threulio blwyddyn ym Mhrifysgol enwog John Hopkins yn
Baltimore. Wrth ennill gradd arall, fe agorwyd sawl drws iddo, a
bu galw mawr arno mewn cynadleddau a phrifysgolion ledled byd.
Derbyniodd swyddi meddygol yn ysbytai Lerpwl a chyfle i ddarlithio
yn yr Adran Feddygol a derbyn Cadair bersonol. Daeth yn bennaeth
yr adran, a bu yn hynod o hael tuag at yr adran honno. Roedd galw
di-ddiwedd arno yn y chwe a’r saith degau i ddarlithio i
gymdeithasau Cymraeg y Glannau, a hynny mewn Cymraeg gloyw,
gyhyrog. Bu’n ffyddlon i’r achos yn Heathfield Road, ac roedd yn
gwybod beth oedd pregeth dda.
Bu’n eithriadol
o hael tuag at Brifysgol Lerpwl. Cafwyd cryn nifer o Gadeiriau
Meddygol wedi eu sefydlu ganddo, yn cynnwys un yn ei enw.
Ysgrifennodd yn helaeth yn ei faes arbenigol, a bydd ei enw yn
parhau yn hanes meddygaeth dinas Lerpwl. Heddwch i’w llwch.
Cyfeiriad a
rhif ffôn ein
Cynorthwy-ydd Bugeiliol, y Parchedig
Robert Parry
Rhag ofn nad
ydi rhai ohonoch chi ddim wedi cael y manylion, dyma nhw, er eich
gwybodaeth:
Bryn Dedwydd, 2 County Road,
Coed-llai, Sir y Fflint CH7 4RF. Ffôn: (01352) 391310
Ffôn symudol mewn argyfwng: 07766
515639
E-bost:
rob.parry@live.co.uk
Cleifion
Dyna hyfryd
oedd cael gweld Mrs Nerys Vaughan Jones yn bresennol yn yr oedfa
arbennig honno, brynhawn Sul, Hydref 13eg, sef Mawl trwy Gân,
a hithau wedi dod bellter ffordd o ran dod dros ei llawdriniaeth
yn Broad Green. Mi roedd y wên ar ei hwyneb yn amlwg, a gallwn
fentro bod y canu gwefreiddiol wedi codi ei hysbryd i’r entrychion,
fel y gwnaeth, yn wir i bawb gafodd y farint o fod yn bresennol.
Daliwch ati, Nerys, i gryfhau.
Wedi wythnosau
lawer o waeledd, mae’n dda iawn gennym glywed bod priod ein
hawnnyl weinidog, Dr Ben Rees bellach yn ol adref. Mae hithau, fel
Nerys, yn gwerthfawrogi’r holl alwadau a’r dymuniadau da. Brysied
wella’n llwyr.
Mae hi’n ddrwg
gennym orfod cyhoeddi fod dau o’n dysgwyr wedi bod mewn gwaeledd
yn ddiweddar, sef Mr Peter Williams sy’n gwneud y fath ymdrech i
ddod bob Nos Lun o Newton-le-Willows a Mr Mike Farnworth sydd yn
mesitroli’r Gymraeg yn dda. Mae Peter yn parhau i fod yn Ysbyty
Whiston. Brysiwch wella, eich dau.
Lawnsio
cyfrol hardd a gwerthfawr ar Hanes Cymry Lerpwl ac apêl am arian
Mae cryn edrych
ymlaen at orchestwaith diweddaraf Dr Ben Rees, sef Hanes
Rhyfeddol Cymry Lerpwl. Fe ddigwydd y lawnsio ar Nos Fawrth,
Tachwedd 26ain am 7.30 yng Nghanolfan y Cymry, Auckland Road/Heathfield
Road. Fel y dywedwyd yng nghopi Medi-Hydref o’r Rhwyd,
gwahoddir chi i gyfrannu yn ôl eich gallu tuag at y fenter hon.
Bydd y sawl sy’n cyfrannu £50 yn cael derbyn copi clawr caled
Cymraeg/Saesneg a bydd eu henwau’n cael eu rhestru ymhlith y
tanysgrifwyr yn y cyfrolau. Gwledd arall i’n disgwyl o ddwylo un
sy’n ddi-stop ei gyfraniad, ac anrheg wych at y Nadolig!
Lawnsio
arall
Nos Fercher,
Rhagfyr 4ydd, fe ddaw cyfrol newydd o gerddi Norman Closs-Parry,
Carmel, Treffynnon i olau dydd, sef Sawr Atgofus Oriau.
Cynhelir y noson yn ngwesty’r Stamford Gate, Treffynnon, a’r
arweinydd fydd Dr Goronwy Wynne, Licswm. Darperir lluniaeth ysgafn.
Croeso cynnes i bawb.
Calendr
Tachwedd-Rhagfyr
TACHWEDD
Bore Sul, 3
Oedfa o dan
arweiniad ein cyfaill hynaws, y Parchedig David Owens, Ponciau,
Wrecsam am 10.30 o’r gloch. Bydd Bethania, Waterloo yn ymuno gyda
ni gydol y mis, heblaw am y 24ain pan fydd Dr Ben Rees yn
gwasanaethu yno.
Nos Lun, 4
Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg (7.30-9.00) a thrafodaeth o dan ofal
y Parchedig Robert Parry ar
“Lle distawrwydd oddi fewn i’n
haddoliad.”
Nos Fawrth,
5 Noson Gymdeithasol
Guto Ffowc o dan nawdd Cymdeithas Cymry Lerpwl.
Bore Sul, 10
A hithau’n Sul y Cadoediad, ein gweinidog, Dr Ben Rees fydd yn
gweinyddu’r sacrament o Swper yr Arglwydd. “Gwnewch hyn er
coffa amdanaf.”
Nos Lun, 11
Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg ac yn Ystafell y Gweinidog, Cyngor
Eglwys Bethel o dan gadeiryddiaeth
Nos Fawrth,
12 Gethin a Glesni –
Noson Gerddorol gyda Chymry Lerpwl
Bore Sul, 17
Tro gweinidog gyda’r Bedyddwyr, y Parchedig Olaf Davies, Bangor
fydd hi i’n gwasanaethu am 10.30.
Nos Lun, 18
Noson yng nghwmni Dysgwyr yr Iaith am 7.30.
Nos Fawrth,
19 Cymdeithas Cymry
Lerpwl: Noson gerddorol gyda’r Parchedig Robert Parry.
Bore Sul, 24
Y Cynorthwy-ydd Bugeiliol
y Parchedig Robert Parry fydd ym mhulpud Bethel am 10.30, a’r Dr
Ben Rees ym Methania am 2.30.
Nos Lun, 25
Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg (7.30-9.00) a Seiat o dan ofal y
Parchedig Robert Parry ar emyn Ann Griffiths,
“Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd..”
Nos Fawrth,
26 Lansio Cyfrol Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl ar y cyd gyda
Chymdeithas Cymry Lerpwl a Changen Cymdeithas Lerpwl o Urdd
Graddedigion Prifysgol Cymru
RHAGFYR
Sul 1
Oedfa Gymun gyda’r Dr Ben Rees
Nos Lun, 2
Dosbarthiadau’r Iaith
Gymraeg (7.30-9.00) a Chyfarfod Gweddi’r Adfent am 7.30.
Nos Fawrth,
3 Cinio Nadolig yn Nghlwb
Golff Woolton.
Sul 8
Disgwyliwn ein gweinidog, Dr Ben
Rees i’n harwain wrth inni nesáu at y preseb.
Nos Lun, 9
Ar Drothwy’r Nadolig
yng ngofal Mrs Nan Hughes Parry a Dosbarthiadau’r Gymraeg,
7.30-9.00.
Nos Fawrth,
10 Naws y Nadolig yng
nghartref John a Kath Norton, 38 Layton Road, Woolton.
Sul 15
Oedfa o dan ofal ein
Bugail, Dr Ben Rees.
Sul 22
A’r Nadolig wrth y drws, tro ein cynorthwy-ydd Bugeiliol, y
Parchedig Robert Parry, i’n harwain yn ein myfyrdod.
Mer 25 Dydd
Nadolig 10.30 Oedfa o dan
ofal y blaenoriaid
Sul 29
y Parchedig Ddr Goronwy Prys Owen, Y Bala fydd yn gwasanaethu.
Boed bendith arno ac ar ei genadwri.
|