Cymharol brin yw ymdriniaethau â chymdeithas Cymry
Lerpwl, er gwaethaf y fytholeg sydd wedi crynhoi o’i hamgylch.
Efallai fod ei dirywiad a’i chymhathiad trylwyr wedi agor bwlch a
lanwyd gan hiraeth a delfrydiaeth, neu efallai fod hanesyddiaeth
Gymraeg wedi canolbwyntio’n ormodol ar unigolion adnabyddus ar
draul y cyfangorff. Ond mae’r gyfrol hon gan D Ben Rees yn cynnig
trosolwg ar hanes amrywiol Cymry Lerpwl, ac yn wir, mae ei
rhychwant a’i hamrywiaeth yn synnu rhywun. Er nad oes ymgais i
ddadansoddi ynddi, mae’n codi sawl cwestiwn anuniongyrchol, heb eu
crybwyll; cyniweiriant fel ysbrydion cythryblus ar y tudalennau,
ac felly mae digon i’r darllenydd gnoi cil arno.
Nodir yn y rhagair yr ‘[a]nwybyddir y Cymry i
raddau helaeth [yn hanes Lerpwl] gan eu bod, mae’n debyg, wedi
canoli eu hymdrechion ar fywyd y capel a’r teulu’, ac fel y gellid
disgwyl, dyrennir rhannau sylweddol o’r gyfrol i hanes y capeli
Cymraeg a frithodd y ddinas. Dadlennir pa mor ddosbarth canol y
capeli hyn fel sefydliadau, a sut y’u nodweddid yn aml gan
snobyddiaeth a diffyg tosturi tuag at y tlodion Cymraeg, a oedd
wedi eu hesgymuno o’r fath gymunedau, i bob pwrpas. Do, codwyd
ambell ‘ystafell genhadol’ ar eu cyfer, ond prin, yn ôl
tystiolaeth y gyfrol, y gwnaeth y dosbarth gweithiol ymgartrefu yn
awyrgylch y capeli. Wrth gwrs, cafwyd unigolion hael iawn a
frwydrodd dros gyfiawnder cymdeithasol, ond eto, unigolion oedd y
rhain, nid sefydliadau. Gwelir hefyd pa mor awyddus oedd pobl y
capeli Cymraeg, ar y cyfan, i gymhathu â’r gymdeithas aesneg
ehangach y tu allan i’r capel, a sut y bu iddynt fabwysiadu ethos
Prydeindod â chryn frwdfrydedd. Yn wir, bu capeli Cymraeg Lerpwl
yn weithgar iawn ym mudiad cenhadol yr Ymerodraeth Brydeinig, er
mor chwithig yw meddwl am hynny heddiw, a hwythau’n lleiafrif
ieithyddol a oedd yn perthyn i genedl heb wladwriaeth.
Ond rhydd y gyfrol sylw i’r cyrion Cymraeg yn
ogystal, gan roi inni ddarlun ehangach – a chywirach felly – o’r
gymdeithas a gafwyd. Clywn am dlodion Cymraeg a anfonwyd yn waglaw
o Lerpwl yn ôl at eu plwyfi genedigol, a rhai a gafodd eu hunain
yn y wyrcws, neu yn drigolion seleri tywyll y slymiau lluosog.
Clywn hefyd am hanes aelodau o’r gymdeithas nad ydynt yn aml iawn
yn cael eu cydnabod o gwbl yn hanes poblogaidd y Cymry: gweithwyr
rhyw. Ceir is-adran yn dwyn y teitl ‘Puteiniaid Cymreig a’u
cwsmeriaid’. Yn wir, diddorol fyddai gwybod rhagor am hynt Maria
Roberts, putain Gymraeg a garcharwyd am ddeufis yn Lerpwl yn 1851,
a llu o fenywod eraill na chafodd eu hanes ei drin na’i ystyried,
heb sôn am ei glywed yn ehangach. Roedd y miloedd ar filoedd o
Gymry yn y ddinas yn cwmpasu pob rhan o’r gymdeithas, sy’n mynd yn
groes i ambell ragdyb ddelfrydoledig am hanes y gymdeithas Gymraeg
yn gyffredinol. Dengys y rhychwant hwn mor gyflawn oedd y
gymdeithas honno. Collwyd ing ac afiaith yr isfyd dinesig Cymraeg
yn llawer o’n hanesyddiaeth a’n llên. Hanes byw ydoedd, a hebddo,
ni ddeuwn i wybod beth oedd ein cymdeithas.
Ond cyn i’r gymdeithas Gymraeg ddechrau dirywio yn
Lerpwl, cafwyd gweithgarwch diwylliannol toreithiog, wrth gwrs, yn
eisteddfodau, cymanfaoedd, darlithoedd, cyrddau, teithiau, ac ati.
Dengys y gyfrol pa mor ymroddedig yr eid ati i’w cynnal ar wahanol
adegau, a sut y ceid i wahanol raddau ymwybyddiaeth gref o
Gymreictod ymysg Cymry’r ddinas. Llwyddodd nifer o Gymry i ragori
yn eu meysydd, boed ym myd meddygaeth neu beirianneg ac ati, ond
yr argraff a gefais wrth ddarllen eu hanes oedd taw rhywbeth ar
wahân i’w Cymreictod oedd y llwyddiannau hynny gan amlaf: Cymry a
gyrhaeddodd y brig mewn byd Saesneg. Nid bychanu eu camp mo dweud
hynny, ond yn fynych, cam arall i gyfeiriad cymathiad diwylliannol
cyflawn oedd hyn.
Erbyn y blynyddoedd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, bu
deffroad gwleidyddol o fath ymysg rhai o Gymry‘r ddinas, gyda
chenedlaetholdeb Cymreig (a Chymraeg) ar gynnydd. Yn wir, bu
aelodau blaenllaw o gymdeithas Gymraeg Lerpwl yn ymuno â’r
protestwyr yn erbyn boddi Capel Celyn, a bu cangen o Blaid Cymru
yno. Ond tybed sut gymdeithas Gymraeg fyddai yn Lerpwl heddiw pe
byddai’r deffroad wedi dod ynghynt? Erbyn heddiw, Cymry a symudodd
yn ddiweddar i’r ddinas yw’r rhan fwyaf o aelodau’r gymdeithas
Gymraeg, ac fel canran o’r boblogaeth gyfan, bychan iawn yw eu
niferoedd. Ble’r aeth y gymdeithas Gymraeg amlweddog honno? Dyna
gwestiwn i sosioieithyddiaeth. Ble’r aeth y sôn amdani? Dyna
gwestiwn i hanesyddiaeth. Tinc rhybuddiol sydd i’r hanes hwn, am i
gymdeithas Gymraeg weithredol a gynhwysai ddegau o filoedd o bobl
bron ddiflannu.
Dyma gyfrol ac ynddi wybodaeth helaeth gan un sydd
wedi gwir ymroi i hanes Cymry Lerpwl, gwybodaeth sydd wedi ei
mynegi’n glir a llyfn. Dylai’r gyfrol arwain at ragor o fyfyrio ac
astudio ar ai o’r cwestiynau hyn, ac yn wir, dyma gofgolofn
deilwng i'r hanes.
Enillodd Morgan Owen Wobr Michael Marks am
Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd ym mis Rhagfyr 2019; ei
gyfrol ddiweddaraf yw Bedwen ar y lloer (Cyhoeddiadau'r
Stamp, 2019).