LIVERPOOL WELSH
   

 
 

Arwr Angof: Alec  Andrew  Templeton

Ennillodd   wobr ar gyfer cyfansoddi darn  o gerddoriaeth ar gyfer y piano  yn 1926, ef oedd y cyntaf o wyth mil o gystadleuwyr. !  Llwyddodd I gael ei gefnogi  gyda’r BBC fel cerddor llawrydd I gyflwyno rhaglenni cerddorol a chadw gwrandawyr  yn ddiddig  am ddeg mlynedd.  Yn ystod y cyfnod hwn  bu   yn  fyfyriwr yn Academi Gerdd Frenhinol   a graddiodd yn 1931. Aeth oddiyno I Royal College of Music  ar ol ennill ysgoloriaeth  ar gyfer y piano  a chyfansoddi. Meistrolodd o’r  newydd yr offerynnau  hyn,  y fiolyn, y ffliwt a’r organ a bu   yn   teithio fel pianydd  gyda Henry Wood, Landon Ronald a Thomas Beecham.

 Yn ystod y gwyliau  teithiai gyda’I  Dad I gyfandir  Ewrop. Dysgodd yn drwyadl  bedair iaith , Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg  a Sbaeneg, I ychwanegu at ei Saesneg  a’I Gymraeg.Nid oedd yn gyfforddus iawn yn  yr iaith honno.  Derbyniodd  yn Llundain  gyfawyddid athrawon o safon  Lloyd Powell   a Isadore Goodman. Symudodd yn 1936  fel aelod o Fand Jack Hylton  , ffrind caredig I Aneurin Bevan fel y bu I Templeton. Chwaraeodd Alec  y piano  I nifer o raglenni  radio The Rudy Vallee Show,  The Chase and Sanborn Hour,  Kraft  Music Hall a  Magic Key of  RCA. Gwahoddwyd ef I baratoi llu o recordiau  a ddaeth I’r brig , a  bu gwerthu mawr arnynt,  fel Musical  Portraits  yn cynnwys cerddoriaeth Mendelsohn a’r cerddor Eidalaidd Ziggy Elmanio.  Gwnaeth enw iddi’I hun  ar draws yr Unol Daleithiauy  gyda’I raglan  radio a gefnogwyd gan gwmni AlkaSeltzer o 1939 I 1941, yn 1943 , ac eto o 1946 I  1947. Gwahoddai  yn gyson  artistiaid o safon Kay Lorene a Pearl Bailey I gyfrannu.

 Daeth cysur mawr I’w fywyd yn y cyfnod prysur hwn pan gyfarfu gyda Juliette Bare Vaiani, unawdydd cyngheddau a drigai yn Hollywood. Priodwyd hwy ar  25 Awst 1940. Daeth y ddau yn ffefrynnau  yn myd y cyngherddau, a bu’r ddau ar ymweliadau a holl ganolfannau cerddorol Gogledd America,  ar fordaith   lwyddiannus I Awstralia a Seland Newydd   Bu  gan Alec  ran  I  bron bob seindorf oedd yn y rheng  flaenaf  yn yr Unol Daleithiau ,

. Gallai gofio  sgriptiau ei raglenni radio a theledu  ar ol clywed hwy yn cael            ei darllen  ugain o weithiau  gan ei briod neu ffrind iddo  Bu ganddo  ei  raglen  deledu  ei hun, It’s Alec Templeton Time.  .  Chwarewyd ei gynhyrchion  ‘ Scarlatti Stoops to Conga’ a hefyd ‘Bach Goes to Town ‘  gan fand cefnogwr mawr arall iddo , Benny Goodman.Trwy’r pumdegau   bu Alec  yn chwarae rhan bwysig  yn llwyddiant Cincinnati Symphony  Orchestra   a dyma’r cyfnod y byddai byth a beunydd ar y teledu .  Daeth  yn eitem wythnosol  ar raglan deledu Bing Crosby  . Bu yn llwyddiant ysgubol   fel pianydd a chyfansoddwr  ar radio  America yn arbennig  fel cyfansoddwr ‘  Bach goes to Town ‘ a ‘Mozart Matriculates. ‘ Derbyniai glod cyson gan y beirniaid  am ei hiwmor a’I  grefft wrth gyfathrebu.  Bu yn recordio gyda Andre Kostelanctz   ‘ Rhapsody in Blue’ o waith Gershwin.

 Gwr annwyl  ryfeddol oedd y cymro  hwn a osododd Cymru ar fap  cerddoriaeth yr Amerig o 1936 I 1962.  Bu rhaglun iaeth  o’I blaid yn ei fywyd priodasol  Pan  y dderbyniodd wahoddiadau I   deithio I Ewrop adeg yr Ail Ryfel byd  nid oedd angen iddo  wrthgod gan fod  Juliette yn barod  I gadw cwmni iddo  ar y teithiau peryglus ar draws Mor yr Iwerydd  gan gofio fel yr oedd yr Almaen yn  barod I suddo unrhyw long  a welai eu llongau  oedd yn perthyn I Brydain neu’r Amerig . Pwrpas y cyfan oedd  diddanu milwyr Cymru a Lloegr  a’r rhai oedd yn dod o’r Amerig .  Fel Vera Lynn bu Alec Templeton  yn ddewr ac yn affaeliad I’r milwyr  oedd yn gwynebu ar fyd maes y gad. . Yn ol yn yr Amerig byddai  Alec a Juliette yn  canolbwyntio cymaint fyth ag y gellid  ar ganolfannau yn Efrog Newydd, Clwb Athletaidd  Detroit,  Gwesty Drake  yn Chicago a     Coroanut Grove yn  Los Angeles. Heidiai Cymry Americanaidd  oeddd yn byw yn y dinasoedd  hyn  neu o fewn cyraedd  iddynt I holl gyngerddau  Alec Templeton. Gwnaeth y ddau ohonynt ( nu fu plant ganddynt )  eu cartref yn nhref Greenwich, talaith Connecticut yn Lloegr Newydd. Yno y bu farw Alc yn wr cymharol ifanc , ar 4 Gorffennaf 1963 yn  bum deg dau mlwydd oed.  Bu’r arwyl yn  y dref a gosodwyd ef I orffwys yn mynwent Putnam, Greenwich. Daeth  ffrindiau, teulu ei briod  ac edmygwyr ynghyd I dalu’r gymwynas I’r  Cymro-Americanaidd. Ni allwn ddweud iddo gael ei lwyr anghofio gan ei gyd-Gymry . Trefnwyd yn y Drwm, Llyfyrgell  Genedlaethol Cymru, Aberystwyth  ar 28 Chwefror  2012 noson I ddathlu ei gyfraniad holl bwysig  gan y Dr  Rhian Davies, Cyfarwyddwr  Gwyl Gerddorol Grewgynog,  a chwarewyd detholiad o’I gyfansoddiadau gan Simon  Crawford- Phillips. A chafodd gant  a mwy o Gymry cerddgar ei llwyr  fodloni gan yr athrylithgar  Alec Andrew Templeton . I filoedd  ar filoedd o Americanwyr  y mae’r ffaith ei bod yn sylweddoli  fod Cymru yn wlad ar wahan I Loegr,  yn bodoli yn bennaf  ar gyfraniadau Richard Burton,  Anthony Hopkins, Tom Jones, Shirley Bassey, Bryn Terfel  ac yn arbennig  Alec Andrew Templeton. Pan hysbysebid Cyngerddau Alec ar hyd a lled y wlad fawr honno pwysleisid bob amser amdano fel Cymro-Americanaidd. Sylwaf mae felly oedd hi  yn y Wasg ar yr adroddiadau ffafriol  o’I ddawn hudol I chwarae’r piano  a’r cyfansoddiadau cofiadwy o’I eiddo. Ac eto yn y gyfrol  werthfawr Cydymaith I Gerddoriaeth  Cymru a gyhoeddid yn 2018 nid oes son o gwbl am Templeton.  Mae’n gyfansoddwr sydd yn gwbl angof. Cafodd Ceiri Torjusssen bron ddwy dudalen gan ei fod ef wedi cerdded llwybrau digon tebyg I Templeton.  Ganwyd y ddau yng Nghaerdydd ac yr oedd rhieni Alec a Ceiri  yn awyddus I’r ddau fachgen lwyddo  ym myd cerddoriaeth . Dyna ddigwyddodd. Ffermwyr ar raddfa fychan oedd rhieni Alec  sef Andrew Bryson a Sarah  May Templeton. Pan anwyd y mab ar 4 Gorffennaf  1910 fe’I ganwyd yn ddall ond magwyd ef gan ei riant   fel pe bae dim byd yn bod arno. Triniwyd  ef ganddynt  fel y trinid ei ddwy chwaer hynach  nag ef,  ei ddysgu I wisgo ei hun,  a bwyta wrth y bwrdd heb gymhorth, I gadw ystafell ei wely  yn dwt, a chyflawni ambell i dasg syml  gyda’r anifeiliaid a’r ffermdy. Yn ddwy flwydd oed dringodd I ben stol y piano ar ol clywed clychau   yn seinio y tyu allan I’w cartref. Tair blynedd yn ddiweddarach astudiai gyd Margaret Humphrey yng Nghaerdydd . Meddai hi ar ddawn cyfathrebu. Dysgodd  ef trwy’r glust a’I fysedd, astudodd braille,  ond dysgodd  yn helaeth  trwy wrando am oriau ar recordiau.   Ar gyngor  ei athrawes    gofynwyd am le iddo yn Ysgol  Caerwrangon  ( Worcester )  lle bu’ n astudio yr organ o dan Ivor Atkins  a dysgu y grefft o gyfansoddi cerddoriaeth  gan Henry Walford Davies. Ar ol gorffen ei addysg  yng Nghaerwrangon  gwerthodd ei rieni y fferm a symud fel teulu I gyrion Llundain  lle yr oedd cyfleustertau arbennig  I lanc addawol fel Alec.  Dim ond deuddeg oed ydoedd pan glywodd un o gynhyrchwyr y BBC ef ar y piano, ac o hynny  hyd 1935 pan ymfudodd I’r byd newydd bu   yn  cymeryd rhan yn gyson  ar raglenni Radio y Gorfforaeth.  Yn bymtheg oed fe’I gwahoddwyd I chwarae concerto Beethoven’s Emperor gyda Seindorf Caerdydd. Dysgodd y cyfan ar ei gof  mewn pedwar diwrnod nes rhyfeddu pob aelod o’r seindorf .