Sefydlwyd y Gymdeithas
Lenyddol gan Weinidog a blaenoriaid Capel Presbyteraidd Cymraeg,
Heathfield Road, Lerpwl ( Bethel erbyn hyn ) yn 1927 pan agorwyd y
Capel newydd ger Penny Lane . Pwrpas y Gymdeithas ydyw rhoddi
cyfle i aelodau ieuanc, canol oed, a hyn y capel i ddefnyddio ‘r
Iaith gymraeg yn hyderus ac i drafod materion crefyddol a chyfoes
heeb anwybyddu y gwyliau Eglwysig, Gwyl Ddewi ynghyd a
llenyddiaeth Gymraeg. Y mae’r Gymdeithas hon yn haeddu sylw gan
iddi fod mewn bodolaeth am 87 mlynedd a’r unig Gymdeithas Lenyddol
sydd yn bodoli ar y Glannau. Yn 1927 yr oedd 65 o Gymdeithasau
Llenyddol yn bodoli ar lannau Mersi yn 2014 un yn unig sydd.
|
Rhaglen 2014/2015:
Medi
Nos Lun, 15 Medi . Cyfarfod Agoriadol . Cwis Cyffredinol rhwng
pedwar tim. Holwraig: Mrs Anne M. Jones, Allerton.
Nos Lun, 29 Medi Noson Datgelu Cefndir a Bywyd. Bydd Dr D Ben
Rees yn holi Mrs Enid Hughes Jones, Broadgreen a Miss Ann
Roberts, Childwall am droeon yr yrfa.
Hydref
Nos Lun. 20 Hydref Darlith gan Dr Goronwy Wynne,Licswm ar
Traddodiad y Plygain. Llywydd :: Yr Athro Dr D. Ben Rees
Tachwedd
Nos Lun, 17 Tachwedd – Pawb a’i Farn . Y panel------- Dr Arthur
Thomas, Mr Brian Thomas, Mrs Wena Evans Holwr—Dr D.Ben Rees
Rhagfyr
Nos Lun, 15 Rhagfyr
Ar Drothwy’r Nadolig. Myfyrdod gan Mrs Nan Hughes Parry,,
Woolton ------ cyflawnodd y gamp ers ugain mlynedd.
2015
Ionawr
Nos Lun, 5 Ionawr – Cyfarfod Gweddi Dechrau’r Flwyddyn.
Nos Lun, 26 Ionawr
Un o’m hoff emynau gyda Mrs Elin Bryn Boyd, Aughton, Mrs Wena
Evans, Allerton a Mrs Glenys Johnson, Tuebrook . Llywydd-Dr John
G.Williams
Chwefror
Nos Lun, 9 Chwedror .
Noson ar Patagonia i baratoi ar gyfer Gwyl Minosa pryd y ceir
darlleniadau, eitemau cerddorol yn canolbwyntio ar y Wladfa o
dan lywyddiaeth Roderick Owen, Springwood.
Nos Sadwrn 28 Chwefror mewn cydweithrediad gyda Chlwb y Cymry------
Cinio Gwyl Ddewi ac eleni cynhelir ef am y tro cyntaf yng Nghlwb
Gollff Woolton. Sicrhawyd fel Gwr Gwadd y Prifardd Twm Morys,
Rhoslan . Llywydd Yr Athro Dr D. Ben Rees Bydd tocynnau ar werth
ar 1 Ionawr, 2015
Mawrth
Nos Lun 9 Mawrth
Darlith gan Myron Jones, Childwall ar RJ. Rowlands, y Bardd a’r
Newyddiadurwr a adnabyddir gyda’i enw barddol - MEURYN - Lerpwl
a Chaernarfon. Llywydd---- Mr John P. Lyons, Knowsley.
Nos Lun, 30 Mawrth
Noson ar y Pasg o dan ofal Dr Pat Williams, Calderstones a
Chantorion Bethel. Llywydd Dr D Ben Rees.
Swyddogion:Llywydd
:- Parchedig Athro Dr D.Ben Rees
Ysgrifennydd:- Miss Mair Powell, West Derby - Ffon-0151
Trysorydd: Mrs Lillian Coulthard, Aigburth Vale
Is-Lywyddion : Mrs Nan Hughes Parry, Woolton
Cyfarfodydd:
Cynhelir y cyfarfodydd hyn i gyd ar wahan i ginio Gwyl Ddewi
yn Y Ganolfan, Auckland Road, Allerton,Liverpool L15 0HX (Cliciwch yma am fap)
Cyswllt e-bost:
Dr D.Ben Rees :-
benatgarthdrive@talktalk.net
|