LIVERPOOL WELSH
   

 

Ysbrydion cythryblus Cymry Lerpwl

 

Morgan Owen

Amser darllen: 4 munud

 

Cymharol brin yw ymdriniaethau â chymdeithas Cymry Lerpwl, er gwaethaf y fytholeg sydd wedi crynhoi o’i hamgylch. Efallai fod ei dirywiad a’i chymhathiad trylwyr wedi agor bwlch a lanwyd gan hiraeth a delfrydiaeth, neu efallai fod hanesyddiaeth Gymraeg wedi canolbwyntio’n ormodol ar unigolion adnabyddus ar draul y cyfangorff. Ond mae’r gyfrol hon gan D Ben Rees yn cynnig trosolwg ar hanes amrywiol Cymry Lerpwl, ac yn wir, mae ei rhychwant a’i hamrywiaeth yn synnu rhywun. Er nad oes ymgais i ddadansoddi ynddi, mae’n codi sawl cwestiwn anuniongyrchol, heb eu crybwyll; cyniweiriant fel ysbrydion cythryblus ar y tudalennau, ac felly mae digon i’r darllenydd gnoi cil arno.

Nodir yn y rhagair yr ‘[a]nwybyddir y Cymry i raddau helaeth [yn hanes Lerpwl] gan eu bod, mae’n debyg, wedi canoli eu hymdrechion ar fywyd y capel a’r teulu’, ac fel y gellid disgwyl, dyrennir rhannau sylweddol o’r gyfrol i hanes y capeli Cymraeg a frithodd y ddinas. Dadlennir pa mor ddosbarth canol y capeli hyn fel sefydliadau, a sut y’u nodweddid yn aml gan snobyddiaeth a diffyg tosturi tuag at y tlodion Cymraeg, a oedd wedi eu hesgymuno o’r fath gymunedau, i bob pwrpas. Do, codwyd ambell ‘ystafell genhadol’ ar eu cyfer, ond prin, yn ôl tystiolaeth y gyfrol, y gwnaeth y dosbarth gweithiol ymgartrefu yn awyrgylch y capeli. Wrth gwrs, cafwyd unigolion hael iawn a frwydrodd dros gyfiawnder cymdeithasol, ond eto, unigolion oedd y rhain, nid sefydliadau. Gwelir hefyd pa mor awyddus oedd pobl y capeli Cymraeg, ar y cyfan, i gymhathu â’r gymdeithas aesneg ehangach y tu allan i’r capel, a sut y bu iddynt fabwysiadu ethos Prydeindod â chryn frwdfrydedd. Yn wir, bu capeli Cymraeg Lerpwl yn weithgar iawn ym mudiad cenhadol yr Ymerodraeth Brydeinig, er mor chwithig yw meddwl am hynny heddiw, a hwythau’n lleiafrif ieithyddol a oedd yn perthyn i genedl heb wladwriaeth.

Ond rhydd y gyfrol sylw i’r cyrion Cymraeg yn ogystal, gan roi inni ddarlun ehangach – a chywirach felly – o’r gymdeithas a gafwyd. Clywn am dlodion Cymraeg a anfonwyd yn waglaw o Lerpwl yn ôl at eu plwyfi genedigol, a rhai a gafodd eu hunain yn y wyrcws, neu yn drigolion seleri tywyll y slymiau lluosog. Clywn hefyd am hanes aelodau o’r gymdeithas nad ydynt yn aml iawn yn cael eu cydnabod o gwbl yn hanes poblogaidd y Cymry: gweithwyr rhyw. Ceir is-adran yn dwyn y teitl ‘Puteiniaid Cymreig a’u cwsmeriaid’. Yn wir, diddorol fyddai gwybod rhagor am hynt Maria Roberts, putain Gymraeg a garcharwyd am ddeufis yn Lerpwl yn 1851, a llu o fenywod eraill na chafodd eu hanes ei drin na’i ystyried, heb sôn am ei glywed yn ehangach. Roedd y miloedd ar filoedd o Gymry yn y ddinas yn cwmpasu pob rhan o’r gymdeithas, sy’n mynd yn groes i ambell ragdyb ddelfrydoledig am hanes y gymdeithas Gymraeg yn gyffredinol. Dengys y rhychwant hwn mor gyflawn oedd y gymdeithas honno. Collwyd ing ac afiaith yr isfyd dinesig Cymraeg yn llawer o’n hanesyddiaeth a’n llên. Hanes byw ydoedd, a hebddo, ni ddeuwn i wybod beth oedd ein cymdeithas.

Ond cyn i’r gymdeithas Gymraeg ddechrau dirywio yn Lerpwl, cafwyd gweithgarwch diwylliannol toreithiog, wrth gwrs, yn eisteddfodau, cymanfaoedd, darlithoedd, cyrddau, teithiau, ac ati. Dengys y gyfrol pa mor ymroddedig yr eid ati i’w cynnal ar wahanol adegau, a sut y ceid i wahanol raddau ymwybyddiaeth gref o Gymreictod ymysg Cymry’r ddinas. Llwyddodd nifer o Gymry i ragori yn eu meysydd, boed ym myd meddygaeth neu beirianneg ac ati, ond yr argraff a gefais wrth ddarllen eu hanes oedd taw rhywbeth ar wahân i’w Cymreictod oedd y llwyddiannau hynny gan amlaf: Cymry a gyrhaeddodd y brig mewn byd Saesneg. Nid bychanu eu camp mo dweud hynny, ond yn fynych, cam arall i gyfeiriad cymathiad diwylliannol cyflawn oedd hyn.

Erbyn y blynyddoedd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, bu deffroad gwleidyddol o fath ymysg rhai o Gymry‘r ddinas, gyda chenedlaetholdeb Cymreig (a Chymraeg) ar gynnydd. Yn wir, bu aelodau blaenllaw o gymdeithas Gymraeg Lerpwl yn ymuno â’r protestwyr yn erbyn boddi Capel Celyn, a bu cangen o Blaid Cymru yno. Ond tybed sut gymdeithas Gymraeg fyddai yn Lerpwl heddiw pe byddai’r deffroad wedi dod ynghynt? Erbyn heddiw, Cymry a symudodd yn ddiweddar i’r ddinas yw’r rhan fwyaf o aelodau’r gymdeithas Gymraeg, ac fel canran o’r boblogaeth gyfan, bychan iawn yw eu niferoedd. Ble’r aeth y gymdeithas Gymraeg amlweddog honno? Dyna gwestiwn i sosioieithyddiaeth. Ble’r aeth y sôn amdani? Dyna gwestiwn i hanesyddiaeth. Tinc rhybuddiol sydd i’r hanes hwn, am i gymdeithas Gymraeg weithredol a gynhwysai ddegau o filoedd o bobl bron ddiflannu.

Dyma gyfrol ac ynddi wybodaeth helaeth gan un sydd wedi gwir ymroi i hanes Cymry Lerpwl, gwybodaeth sydd wedi ei mynegi’n glir a llyfn. Dylai’r gyfrol arwain at ragor o fyfyrio ac astudio ar ai o’r cwestiynau hyn, ac yn wir, dyma gofgolofn deilwng i'r hanes.

Enillodd Morgan Owen Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd ym mis Rhagfyr 2019; ei gyfrol ddiweddaraf yw Bedwen ar y lloer (Cyhoeddiadau'r Stamp, 2019).

 


 

 

 

To be launched  later on this year—order your copy from

 D.Ben Rees